Cantrefi Chiltern
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Hen ardal weinyddol ym Mryniau Chiltern, Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, oedd Cantrefi Chiltern[1] (Saesneg: Chiltern Hundreds). Mae'r enw yn parhau heddiw fel swydd ddychmygol dan y Goron: Stiward neu Feili Ei Mawrhydi dros Gantrefi Chiltern Stoke, Desborough a Burnham. Ni cheir Aelod Seneddol ymddeol ei sedd, ac felly bydd AS sy'n dymuno ymddeol yn gwneud cais am y swydd hon i'w wneud yn anghymwys i eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [hundred].
- ↑ Chambers Dictionary of World History (Caeredin, Chambers, 2004), t. 166.
