Neidio i'r cynnwys

Canser y bledren

Oddi ar Wicipedia
Canser y bledren
Enghraifft o:dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcanser y system wrinol, clefyd y bledren, bladder neoplasm, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCIC2901, c9334 edit this on wikidata
Freebase/M/01bcp7 edit this on wikidata
OMIM109800 edit this on wikidata
UMLS CUIC0005684 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae canser y bledren ymhlith nifer o ganserau sy'n deillio o feinweoedd y bledren wrinol.[1] Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[2] Mae symptomau'r cyflwr yn cynnwys gwaed yn yr wrin, poen wrth ollwng dŵr, a phoenau yng ngwaelod y cefn.

Mae ffactorau risg canser y bledren yn cynnwys ysmygu, hanes teuluol o'r cyflwr, therapi ymbelydredd cynt, heintiau aml ynghylch y bledren, a datguddiad i gemegau penodol. Y math mwyaf cyffredin yw carsinoma celloedd trawsnewidiol. Daw mewn fersiynau eraill yn ogystal gan gynnwys carsinoma celloedd cennog ac adeno carsinoma.[3] Gwneir diagnosis fel arfer drwy gysosgopi gyda biopsïau meinwe. Gellir canfod ymlediad a phennod y canser drwy ddelweddu meddygol megis sgan CT a sgan esgyrn.

Rhoddir triniaeth yn seiliedig ar bennod y canser. Mae'n bosib iddo gynnwys cyfuniad o lawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, cemotherapi, neu imiwnotherapi. Gall opsiynau llawfeddygol gynnwys echdyniad trawswrethrol, gwaredu'r bledren yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu atgyfeiriad wrinol. Mae 77% o ddioddefwyr yn byw o leiaf pum mlynedd wedi diagnosis yn yr Unol Daleithiau.[4]

Yn 2015 yr oedd oddeutu 3.4 miliwn yn dioddef y cyflwr ar draws y byd, a cheir 430,000 o achosion newydd yn flynyddol. Yn gyffredinol, mae'r canser yn dechrau datblygu mewn dioddefwyr rhwng 65 a 85 mlwydd oed. Nid yw'n taro menywod ar yr un raddfa a dynion. Yn 2015 arweiniodd at 188,000 o farwolaethau.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Bladder Cancer Treatment". National Cancer Institute (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2017.
  2. "Cancer Fact sheet N°297". World Health Organization. Chwefror 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014.
  3. "Bladder Cancer". National Cancer Institute (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2017.
  4. "Cancer of the Urinary Bladder – Cancer Stat Facts". seer.cancer.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2017.
  5. GBD 2015 Mortality and Causes of Death, Collaborators. (8 Hydref 2016). "Global, regional, and national life expectancy, all-cause mortality, and cause-specific mortality for 249 causes of death, 1980–2015: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2015.". Lancet 388 (10053): 1459–1544. PMID 27733281.