Canser endometriaidd

Oddi ar Wicipedia
Canser endometriaidd
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcanser y groth, uterine corpus cancer, endometriosis, neoplasm endometriaidd, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Canser yn deillio o'r endometriwm (leinin yr wterws neu'r groth) yw canser endometriaidd.[1] Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[2] Ymhlith yr arwyddion cyntaf o'r cyflwr y mae gwaedu gweiniol nad yw'n gysylltiedig â chyfnod mislifol. Mae symptomau eraill yn cynnwys poen wrth ollwng dŵr, poen yn ystod cyfathrach rywiol, neu boen pelfig. Yn fwy aml na pheidio, y mae dioddefwr yn datblygu canser endometriaidd wedi darfyddiad mislif.[3]

Mae oddeutu 40% o achosion yn gysylltiedig â gordewdra. Gellir adnabod cysylltiadau rhwng y cyflwr a phwysedd gwaed uchel, clefyd y siwgr ac amlygiad gormodol i estrogen. Rhai nodi, er bod cymryd estrogen ar ei ben ei hun yn cynyddu'r risg o ddatblygu canser endometriaidd, wrth gyfuno estrogen a phrogestin, fel y gwneir yn y rhan fwyaf o feddyginiaethau rheoli genedigaeth, y mae'r risg yn lleihau. Achosir rhwng dau a phump y cant o achosion gan enynnau etifeddol. Yn achlysurol, cyfeirir at ganser endometriaidd fel "canser crothol", er rhaid cydnabod bod y cyflwr yn wahanol i ganserau crothol eraill megis canser serfigol, sarcoma crothol, a chlefyd troffoblastig.[4] Carcinoma endometrioid yw'r math mwyaf cyffredin o ganser endometriaidd (oddeutu 80% o achosion).[5] Gwneir diagnosis wedi biopsi endometriaidd neu drwy gymryd samplau yn ystod gweithdrefnau o'r enw ymagoriad a chiwretiad. Fel arfer nid yw prawf rhwbiad o'r groth yn ddigonol er mwyn canfod canser endometriaidd.[6] I'r rheini sydd â risg arferol o ddatblygu'r cyflwr, ni chynigir sgrinio rheolaidd.[7]

Un o'r triniaethau pennaf ar gyfer dileu canser endometriaidd yw hysterectomi abdomenol (llawdriniaeth i dynnu'r groth yn gyfan gwbl o'r corff), ynghyd â gwaredi'r tiwbiau Ffalopaidd a'r ofarïau ar y ddwy ochr, a elwir yn salipeo-oofforectomi dwyochrog. Mewn achosion mwy datblygedig, argymhellir therapi ymbelydredd, cemotherapi neu therapi hormonau. Os gwneir diagnosis cynnar mae canlyniad cadarnhaol yn debygol, ac y mae 80% o ddioddefwyr yn byw o leiaf 5 mlynedd yn yr Unol Daleithiau wedi diagnosis.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "General Information About Endometrial Cancer". National Cancer Institute. 22 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2014. Cyrchwyd 3 Medi 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Defining Cancer". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2014. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Kong, A; Johnson, N; Kitchener, HC; Lawrie, TA (18 April 2012). "Adjuvant radiotherapy for stage I endometrial cancer.". The Cochrane Database of Systematic Reviews 4: CD003916. doi:10.1002/14651858.CD003916.pub4. PMC 4164955. PMID 22513918. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4164955.
  4. "What You Need To Know: Endometrial Cancer". NCI. National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2014. Cyrchwyd 6 Awst 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. International Agency for Research on Cancer (2014). World Cancer Report 2014. World Health Organization. Chapter 5.12. ISBN 978-92-832-0429-9.
  6. "Endometrial Cancer Treatment (PDQ®)". National Cancer Institute. 23 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2014. Cyrchwyd 3 Medi 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Hoffman, BL; Schorge, JO; Schaffer, JI; Halvorson, LM; Bradshaw, KD; Cunningham, FG, gol. (2012). "Endometrial Cancer". Williams Gynecology (arg. 2nd). McGraw-Hill. t. 823. ISBN 978-0-07-171672-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Ionawr 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "SEER Stat Fact Sheets: Endometrial Cancer". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)