Canopus
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | seren, ffynhonnell isgoch agos ![]() |
---|---|
Cytser | Carina ![]() |
Pellter o'r Ddaear | 310 ±20 blwyddyn golau ![]() |
Paralacs (π) | 10.55 ±0.56 ![]() |
Cyflymder rheiddiol | 20.3 ±0.5 cilometr yr eiliad ![]() |
Goleuedd | 13,300 ![]() |
Tymheredd | 7,557 Kelvin ![]() |
![]() |
Seren yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yng nghytser Carina yw Canopus (hefyd α Carinae neu Alpha Carinae). Mae ganddi maint ymddangosol o −0.74. Dyma'r seren ail ddisgleiriaf a welir yn awyr y nos, ar ôl Sirius (−1.46).[1]

Mae Canopus yn gawr llachar o ddosbarth sbectrol A9, ac mae'n ymddangos yn wyn i'r llygad noeth. Fe'i lleolir tua 310 o flynyddoedd golau o'r Ddaear. Mae dros 10,000 gwaith yn fwy disglair na'r Haul, gyda rhwng 9 a 10 gwaith ei fàs, a radiws 71 gwaith yn fwy na'r Haul.