Canolfan Thomas Telford, Porthaethwy
| Math | amgueddfa leol, amgueddfa annibynnol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Porthaethwy |
| Sir | Porthaethwy |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 28.3 metr |
| Cyfesurynnau | 53.223766°N 4.165693°W |
| Cod post | LL59 5EA |
| Gwleidyddiaeth | |
| AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
| AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Mae Canolfan Thomas Telford wedi ei lleoli ym mhentref Porthaethwy, Ynys Môn. Amgueddfa yw hi sy'n rhannu gwybodaeth am y ddwy bont ar draws y Fenai.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae Canolfan Thomas Telford yn brosiect cymunedol sy'n canolbwyntio ar Bont y Borth, a adeiladwyd gan Thomas Telford a Phont Britannia a adeiladwyd gan Robert Stephenson. Mae hi'n amgueddfa drwyddiedig ac mae'r ganolfan yn cynnwys arteffactau hanesyddol, lluniau, ffilmiau, cwisiau ac arweinwyr profiadol i dywys y cyhoedd o gwmpas ardal Porthaethwy.
Yr ysgol
[golygu | golygu cod]Cynlluniodd pensaer o Fangor sef Harry Kennedy, eglwys ac ysgol newydd ym Mhorthaethwy. Roedd yr adeilad yn cynnwys iard a chartref i'r prifathro. Gosodwyd yr eglwys mewn man uwchben y ffordd at y bont newydd. Arianwyd yr holl beth gan Ardalydd Môn ac agorwyd yr ysgol yn 1854. Yn yr 20g ychwanegwyd dysgu mathemateg, llenyddiaeth a daearyddiaeth ond yn wreiddiol roedd yr ysgol am ganolbwyntio ar addysg Feiblaidd. Darparwyd addysg gan yr Eglwys ac roedd yr ysgol yn perthyn i'r Ysgolion Cenedlaethol.[1]
Erbyn hyn mae'r ganolfan wedi ei hadnewyddu. Mae'r hen ysgol nawr yn swyddfeydd ac arddangosfa Treftadaeth y Fenai (ers 2007)
Mae Canolfan Telford ar agor yn dymhorol.
Pont y Borth
[golygu | golygu cod]Cyn adeiladu’r bont, dim ond ar y dŵr y gellid teithio rhwng yr Ynys a’r tir mawr. Roedd fferi Bangor i Borthaethwy y pennaf ohonynt, ac mae cofnod i Elisabeth I o Loegr osod yr hawl i un John Williams yn 1594.
Roedd Undeb Prydain Fawr gydag Iwerddon wedi creu galw am gryfhau’r cysylltiad ymarferol rhwng Llundain a Dulyn. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd Thomas Telford, nid yn unig i adeiladu’r bont hon, ond i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o Lundain i Gaergybi. Gan mai ffyrdd tyrpeg yn nwylo preifat oedd yn y wlad bryd hynny, hwn oedd y tro cyntaf i arian cyhoeddus gyllido adeiladu ffyrdd ym Mhrydain ers oes y Rhufeiniaid.

Pont Britannia
[golygu | golygu cod]Y bont yma sydd yn cysylltu Ynys Môn gyda’r tir mawr, gan gludo’r rheilffordd a’r A55 dros Afon Menai.
Enw cywir y bont yw Pont Llanfair. Daw’r enw o bentref cyfagos Llanfairpwll, ond credir i'r bont gael ei cham-enwi yn Pont Britannia o gam-gyfieithiad o enw'r graig y saif colofn canol y bont arni - Carreg y Frydain. Mae gwraidd y gair 'Frydain' yn dod o'r gair 'brwd,' ac yn enw disgrifiadol sy'n cyfeirio at natur wyllt y Fenai.
Adeiladwyd y bont yn wreiddiol ar gyfer y rheilffordd yn unig, rhan o Rheilffordd Caer a Chaergybi. Rhoddwyd y gwaith i’r peiriannydd Robert Stephenson ac, fel Pont Y Borth o’i blaen, adeiladwyd pont tebyg (ond llai) gan yr un periannydd ar draws Afon Conwy yr un pryd.
Fel Pont Y Borth, ‘roedd rhaid i’r bont fod yn ddigon uchel i ganiatau mynediad tani i longau hwylio. Strwythur y bont wreiddiol oedd tiwbiau o haearn, gyda dau prif ran o 460 troedfedd (140m) o hyd, ac yn pwyso 1800 tunell. Gyda chysylltidau llai o 230 troeddfedd (70m) y naill ochr, roedd hyd y tiwb gyfan yn 1511 troedfedd (461m). Wedi cychwn ar y gwaith adeiladu ym 1846, agorwyd y bont ar 5 Mawrth, 1850. Roedd bellach yn bosibl cyrraedd Caergybi ar y reilffordd mewn naw awr o gymharu a rhyw ddeugain awr ar y goets.
Adnabyddwyd y bont wreiddiol yn gymaint fel ‘Y Tiwb’ â’r enw swyddogol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
