Canolfan Thomas Telford, Porthaethwy

Oddi ar Wicipedia
Canolfan Thomas Telford, Porthaethwy
Mathamgueddfa leol, amgueddfa annibynnol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2007 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPorthaethwy Edit this on Wikidata
SirPorthaethwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr28.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.223766°N 4.165693°W Edit this on Wikidata
Cod postLL59 5EA Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Mae Canolfan Thomas Telford wedi ei lleoli ym mhentref Porthaethwy, Ynys Môn. Amgueddfa yw hi sy'n rhannu gwybodaeth am y ddwy bont ar draws y Fenai.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae Canolfan Thomas Telford yn brosiect cymunedol sy'n canolbwyntio ar Bont y Borth, a adeiladwyd gan Thomas Telford a Phont Britannia a adeiladwyd gan Robert Stephenson. Mae hi'n amgueddfa drwyddiedig ac mae'r ganolfan yn cynnwys arteffactau hanesyddol, lluniau, ffilmiau, cwisiau ac arweinwyr profiadol i dywys y cyhoedd o gwmpas ardal Porthaethwy.

Yr ysgol[golygu | golygu cod]

Cynlluniodd pensaer o Fangor sef Harry Kennedy, eglwys ac ysgol newydd ym Mhorthaethwy. Roedd yr adeilad yn cynnwys iard a chartref i'r prifathro. Gosodwyd yr eglwys mewn man uwchben y ffordd at y bont newydd. Arianwyd yr holl beth gan Ardalydd Môn ac agorwyd yr ysgol yn 1854. Yn yr 20g ychwanegwyd dysgu mathemateg, llenyddiaeth a daearyddiaeth ond yn wreiddiol roedd yr ysgol am ganolbwyntio ar addysg Feiblaidd. Darparwyd addysg gan yr Eglwys ac roedd yr ysgol yn perthyn i'r Ysgolion Cenedlaethol.[1]

Erbyn hyn mae'r ganolfan wedi ei hadnewyddu. Mae'r hen ysgol nawr yn swyddfeydd ac arddangosfa Treftadaeth y Fenai (ers 2007)

Mae Canolfan Telford ar agor yn dymhorol.

Pont Menai

Pont y Borth[golygu | golygu cod]

Cyn adeiladu’r bont, dim ond ar y dŵr y gellid teithio rhwng yr Ynys a’r tir mawr. Roedd fferi Bangor i Borthaethwy y pennaf ohonynt, ac mae cofnod i Elisabeth I o Loegr osod yr hawl i un John Williams yn 1594.

Roedd Undeb Prydain Fawr gydag Iwerddon wedi creu galw am gryfhau’r cysylltiad ymarferol rhwng Llundain a Dulyn. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd Thomas Telford, nid yn unig i adeiladu’r bont hon, ond i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o Lundain i Gaergybi. Gan mai ffyrdd tyrpeg yn nwylo preifat oedd yn y wlad bryd hynny, hwn oedd y tro cyntaf i arian cyhoeddus gyllido adeiladu ffyrdd ym Mhrydain ers oes y Rhufeiniaid.

Pont Britannia

Pont Britannia[golygu | golygu cod]

Y bont yma sydd yn cysylltu Ynys Môn gyda’r tir mawr, gan gludo’r rheilffordd a’r A55 dros Afon Menai.

Enw cywir y bont yw Pont Llanfair. Daw’r enw o bentref cyfagos Llanfairpwll, ond credir i'r bont gael ei cham-enwi yn Pont Britannia o gam-gyfieithiad o enw'r graig y saif colofn canol y bont arni - Carreg y Frydain. Mae gwraidd y gair 'Frydain' yn dod o'r gair 'brwd,' ac yn enw disgrifiadol sy'n cyfeirio at natur wyllt y Fenai.

Adeiladwyd y bont yn wreiddiol ar gyfer y rheilffordd yn unig, rhan o Rheilffordd Caer a Chaergybi. Rhoddwyd y gwaith i’r peiriannydd Robert Stephenson ac, fel Pont Y Borth o’i blaen, adeiladwyd pont tebyg (ond llai) gan yr un periannydd ar draws Afon Conwy yr un pryd.

Fel Pont Y Borth, ‘roedd rhaid i’r bont fod yn ddigon uchel i ganiatau mynediad tani i longau hwylio. Strwythr y bont wreiddiol oedd tiwbiau o haearn, gyda dau prif ran o 460 troedfedd (140m) o hyd, ac yn pwyso 1800 tunell. Gyda chysylltidau llai o 230 troeddfedd (70m) y naill ochr, roedd hyd y tiwb gyfan yn 1511 troedfedd (461m). Wedi cychwn ar y gwaith adeiladu ym 1846, agorwyd y bont ar 5 Mawrth, 1850. Roedd bellach yn bosibl cyrraedd Caergybi ar y reilffordd mewn naw awr o gymharu a rhyw ddeugain awr ar y goets.

Adnabyddwyd y bont wreiddiol yn gymaint fel ‘Y Tiwb’ â’r enw swyddogol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Treftadaeth Menai". Treftadaeth Menai. 09/04/18. Cyrchwyd 09/04/18. Check date values in: |access-date=, |date= (help)