Canolfan Cludiant Britomart

Oddi ar Wicipedia
Canolfan Cludiant Britomart
Mathgorsaf reilffordd, gorsaf reilffordd tanddaearol, gorsaf pengaead, central station Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWaitematā Harbour Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogolGorffennaf 2003 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 7 Gorffennaf 2003 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAuckland Region Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Cyfesurynnau36.844°S 174.767°E Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Map
PerchnogaethAuckland Council Edit this on Wikidata
Statws treftadaethHeritage New Zealand Category 1 historic place listing Edit this on Wikidata
Manylion

Canolfan cludiant yn Auckland, Seland Newydd, yw Canolfan Cludiant Britomart (Saesneg: Britomart Transport Centre).

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae ardal Britomart yn gorwedd ar lan Harbwr Waitemata, ac wedi bod yn hanesyddol bwysig i lwythau Maori lleol; roedd yno Pa (sef "tŷ cyfarfod") ar Bwynt Britomart[1][2], ac ymladdwyd sawl brwydr rhwng y Maori a'r bobol ddwad i sefydlu rheolaeth dros yr ardal. Cyrhaeddodd HMS Britomart a sawl llong arall Seland Newydd ym 1840, er mwyn cynnal arolwg hydrolegol ar ran y Morlys, a chyfrannodd HMS Britomart i arolwg o Harbwr Waitemata[1][2]. Enwyd y llong ar ôl tywysoges Frythonig sy'n gymeriad yn y gerdd y Faerie Queen gan Edmund Spenser.[angen ffynhonnell]

Adeiladwyd Fort Britomart ym 1841 ar safle'r Pa Maori, i reoli'r Harbwr ac roedd 10,000 o filwyr ym Marics Britomart yn ystod rhyfeloedd Seland Newydd y 1860au. Tyfodd ardal fasnachol y dref, ac adenillwyt tir o'r Bae rhwng 1860 ac 1883

Canolbwynt y ganolfan fodern yw'r hen Brif Swyddfa Bost, a adeiladwyd rhwng 1909-12 gyda meini o Oamaru ac ithfaen o Goromandel. Caewyd y swyddfa bost ym 1988.[2]

Bysiau[golygu | golygu cod]

Prynwyd bws gan Leonard John Keys – a oedd yn groser ar gornel Ffyrdd Clonbern a Remuera – yn 1914[3], a dechreuodd wasanaeth cyntaf y dref. Roedd bysiau Keys yn ymadael o safle o flaen y swyddfa bost nes agor Gorsaf Fws Britomart ym Medi 1937.

Trenau[golygu | golygu cod]

Gorsaf Reilffordd Beach Road

Agorwyd Gorsaf Reilffordd Queen Street ynghanol y dref ar 30 Tachwedd 1885[2]. Disodlwyd yr orsaf wreiddiol ym 1930 gan orsaf newydd, Beach Road[1]. Cafodd yr orsaf adeilad odidog, newydd a adeiladwyd gydag ithfaeth o Goromandel, marmor o Whangarei a briciau o New Lynn. Yn anffodus roedd yr orsaf tua chilomedr o ganol y dref.[4]

Waterfront 2000[golygu | golygu cod]

Grwp o brosiectau oedd Waterfront 2000; roedd Seland Newydd wedi ennill ras hwylio Cwpan America ym 1995 a'r bwriad oedd rhoi wyneb newydd i'r ddinas yn ardaloedd Britomart a Viaduct Harbour.

Dros y blynyddoedd dilynol, newidiwyd manylion y prosiect a chynyddodd y gost. Ym Mai 2003 cyrhaeddodd y trên cyntaf, i brofi traciau, uchder platfform, a signalau. Bendithiwyd yr orsaf gan y Maori ar doriad gwawr 20 Mehefin 2004, ac am 5.40yb ar 23 Mehefin, cyrhaeddodd y trên cyntaf swyddogol, yr cyntaf i gyrraedd canol y ddinas ers 73 mlynedd. Croesawyd y trên gan bibydd, ac wedyn gan Haka ac Waiata (gair Maori am gân).

Agorwyd y Ganolfan yn swyddogol ar 25 Gorffennaf 2003 gan John Banks, maer y ddinas. Y gwestai anrhydeddus oedd Syr Edmund Hillary a'r Foneddiges Hillary.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Gwefan britomart.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-26. Cyrchwyd 2016-01-25.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 New Zealand Herald, 23 Ebrill 2004
  3. Gwefan nzhistory.net
  4. "Gwefan transportblog.co.nz". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-11. Cyrchwyd 2016-01-25.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: