Cangarŵ coch

Oddi ar Wicipedia
Cangarŵ coch gwrywaidd yn Sw Melbourne.

Mae'r cangarŵ coch (Osphranter rufus) yn rhywogaeth o gangarŵ sydd i'w ganfod yng nghanol Awstralia. Nhw yw'r rhywogaethau macropod mwyaf. Disgrifiwyd y rhywogaeth am y tro cyntaf ym 1822.[1] Mae'n gangarŵ mawr iawn gyda chlustiau hir, pigfain a thrwyn siâp sgwâr. Mae'r gwrywod a'r benywod yn edrych yn wahanol i'w gilydd.

Mae'r cangarŵ coch wedi'i warchod gan y gyfraith yn Awstralia.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jackson, Stephen; Groves, Colin (2015). Taxonomy of Australian Mammals (yn Saesneg). CSIRO Publishing. t. 153. ISBN 9781486300129.
  2. "National commercial Kangaroo harvest quotas" (yn Saesneg). environment.gov.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mehefin 2011. Cyrchwyd 2009-04-16.
Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.