Neidio i'r cynnwys

Camwri Cwm Eryr

Oddi ar Wicipedia
Camwri Cwm Eryr
Clawr argraffiad Melin Bapur (2024)
AwdurT. Gwynn Jones
CyhoeddwrMelin Bapur (2024)
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncNofelau Cymraeg
ArgaeleddMewn print

Nofel gan T. Gwynn Jones yw Camwri Cwm Eryr. Ei ail nofel, cafodd ei chyhoeddi fel cyfres yn Papur Pawb (heb enw'r awdur) o 1898-99, ac eto yn y 1930au. Nid ymddangosodd fel cyfrol fodd bynnag tan 2024 pan gyhoeddwyd y llyfr o'r newydd gan Melin Bapur.[1]

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Testun y nofel yw etifeddiaeth Arthur Wynn, sgweiar Cwm Eryr (sy'n marw ar ddechrau'r nofel). Nododd yn ei ewyllys nad oedd am i'w eiddo gael ei etifeddu gan ferch; fodd bynnag mae ei holl feibion yn digwydd marw cyn iddo yntau wneud, felly mae'n gadael ei eiddo yn hytrach i'w fab yng nghyfraith, Harold Jackson, Sais sy'n berchen ar waith haearn y dref. Mae Jackson, fodd bynnag, wedi cynllwynio gyda Gaenor, merch Arthur Wynn, i guddio bodolaeth ŵyr gwrywaidd (hefyd o'r enw Arthur), gafodd ei eni ychydig ddyddiau cyn marwolaeth y Sgweiar.

Blynyddoedd yn ddiweddarach, ag Arthur wedi tyfu'n ddyn, mae'r nofel yn dechrau gyda marwolaeth damweiniol Rhys Owen, un o ffermwyr tenant Jackson, pan yn croesi cae lle mae Jackson yn cadw tarw peryglus. Daw Dafydd Owen, mab Rhys a chyfaill i Arthur, yn denant i Jackson.

Mae Arthur yn gweithio i Jackson yn y gwaith haearn, fodd bynnag mae ymddangosiad nifer o ffigyrau amheus o'r gorffennol yn gwneud i Jackson dechrau amau bod cynllwyn ar droed i ddychwelyd Arthur i'w etifeddiaeth. Yn dilyn nifer o wrthdrawiadau cynyddol greulon a threisgar rhwng Jackson ac Arthur a Dafydd, yn y pen draw mae Arthur yn cael ei yrru'n wyllt ac yn llosgi tes gwair sy'n eiddo i Jackson.

Mae Jackson yn gweld hyn fel cyfle i gael gwared arno, ond ar ganol yr helynt cyfreithiol daw rhywun eto fyth yn ôl o'r gorffennol i dynnu'r llen oddi ar gamweithredoedd y landlord cas.

Dadansoddi

[golygu | golygu cod]

Disgrifiodd Alan Llwyd y nofel fel un wleidyddol sy'n beirniadu system denantiaeth ffermwyr, system y mae Rhys a Dafydd Owen yn dioddef o'i herwydd yn y nofel.[2] Fodd bynnag, mae'n arwyddocaol bod y nofel yn gorffen gyda'r system yn ei le ond gyda landlordiaid 'da' wedi cymryd lle yr un gwael; nid yw'r nofel felly'n galw am chwyldro yn ystyr newid go iawn i'r system.[3]

Mae'r nofel yn un o sawl un gan T. Gwynn Jones gyda chymeriad arwrol o'r enw Arthur; ymysg y lleill mae Gorchest Gwilym Bevan a Llwybr Gwaed ac Angau. Rhoddodd yr un enw i'w fab cyntaf, Arthur ap Gwynn, pan ganwyd yntau yn 1902.

Mae teitl y nofel yn gynghanedd groes.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Camwri Cwm Eryr[dolen farw], Gwefan Melin Bapur
  2. Llwyd, Alan (2019) Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, Barddas.
  3. Strikes and Nasty Landlords: The Welsh Activist Novel, Nation.cymru (yn Saesneg)