Campi Flegrei
| Math | callor, cadwyn o fynyddoedd, maes folcanig |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | bwa folcanig Campania |
| Sir | Dinas Fetropolitan Napoli |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 458 metr |
| Cyfesurynnau | 40.827°N 14.139°E |
| Cadwyn fynydd | Q3618573 |
![]() | |
| Statws treftadaeth | IUGS Geological Heritage Site |
| Manylion | |
Ardal folcanig helaeth yn Ninas Fetropolitan Napoli, rhanbarth Campania, yr Eidal, yw'r Campi Flegrei (enw Eidaleg sy'n deillio o'r Hen Roeg Φλεγραία Πεδία, sef "meysydd llosgi"). Fe'i lleolir tua 20 km i'r gorllewin o'r llosgfynydd Mynydd Feswfiws. Mae'n ymestyn ar draws ardal o fwy na 200 km2 ar hyd Gwlff Napoli ac yn cynnwys ardaloedd gorllewinol dinas Napoli, y trefi Pozzuoli, Bacoli, Monte di Procida a Quarto, yn ogystal â'r ynysoedd Ischia, Procida a Vivara. Yr ardal oedd safle'r trefedigaethau cyntaf o Magna Graecia yn yr 8fed ganrif CC. Maent yn ffurfio ardal o bwysigrwydd hanesyddol, diwylliannol a daearegol. Mae tua 350,000 o bobl yn byw yno heddiw.

Bu ffrwydradau ysbeidiol yn ystod y 50,000 o flynyddoedd diwethaf a gyrhaeddodd uchafbwynt tua 34,000 o flynyddoedd yn ôl, gan arwain at gallor (caldera) enfawr. Digwyddodd y ffrwydrad diweddaraf yn 1538; yn ystod y digwyddiad hwn ffurfiwyd Monte Nuovo, llosgfynydd côn lludw. Mae ardal y callor yn cynnwys 24 o graterau a strwythurau folcanig eraill, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gorwedd o dan Gwlff Napoli.[1]

Mae'r ardal yn parhau i fod yn weithgar yn folcanig. Mae ffwmarolau yn allyrru nwyon, mae daeargrynfeydd yn digwydd yn fynych, ac mae lefel y ddaear yn codi ac yn gostwng yn aml wrth i'r siambr magma oddi tano newid siâp. Gan fod yr ardal mor boblog, mae ei chyflwr daearegol yn cael ei fonitro'n gyson, ac mae cynlluniau i wagio cannoedd o filoedd o bobl ar fyr rybydd.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Helen Brand, "Volcanism and the Mantle: Campi Flegrei", Internet Archive; uwchlwythwyd 10 Awst 2012; adalwyd 12 Mawrth 2025
- ↑ "Parts of Italian volcano 'stretched nearly to breaking point', study finds", The Guardian, 9 Mehefin 2023; adalwyd 15 Mawrth 2026
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Campi Flegrei", Smithsonian Institution Global Volcanism Program
