Camlas Peak Forest
Math | camlas |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Fetropolitan Tameside, Bwrdeistref Fetropolitan Stockport, Bwrdeistref High Peak, Dwyrain Swydd Gaer |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.366°N 2.054°W |
Mae Camlas Peak Forest yn 14.8 milltir o hyd ac yn estyn o Gamlas Ashton ar gyrion Manceinion i Whaley Bridge, lle mae cysylltiad ym Masn Bugsworth efo tramffyrdd o chwareli calchfaen Swydd Derby.
Gwahanir y gamlas rhwng y gamlas uwch a chamlas is gan 16 o lociau yn codi’r gamlas 209 troedfedd ym Marple. Ystyriwyd adeiladu plân ar oleddf, ond roedd lociau’n fwy effeithiol. Adeiladwyd Traphont Marple hefyd, dros Afon Goyt.[1] Mae cyffwrdd efo Camlas Macclesfield, ym Marple. Agorwyd Camlas Macclesfield ym 1831, yn cynyddu traffig ar Gamlas Peak Forest,yn cynnwys cludiant rhwng Manceinion a Llundain. Agorwyd Rheilffordd Cromford a High Peak ym 1831 hefyd, y creu cysylltiad efo Camlas Cromford ac felly efo Derby a Chesterfield.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Hoffasai cwmni Camlas Ashton adeiladu camlas i chwareli Swydd Derby, ond penderfynwyd creu cwmni arall i’w gwneud. Dechreuodd gwaith adeiladu’r gamlas ym 1794 i gludo calchfaen o chwareli Swydd Derby. Agorwyd y gamlas ym 1800, a chyblhawyd lociau Marple ym 1804. Peiriannydd y gamlas oedd Benjamin Outram. Roedd Samuel Oldknow yn noddwr pwysig i’r gamlas, ac adeiladodd odynau calch ym Marple.[2] Erbyn 1900 roedd dros 600 tunnell o galchfaen yn ddyddiol. Cludwyd glo, cotwm, grawn a nwyddau eraill. Caewyd Basn Bugsworth ym 1926. Roedd rhan is y gamlas, rhwng Ashton under Lyne a lociau Marple, yn segur yn y 1960au. Atgyweiriwyd y rhan yno gan wirfoddolwyr, ac ei hail-agorwyd yn 1974, yn ffurfio rhan o’r Cylch Swydd Gaer.[3].