Cambrai
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 31,134 |
| Pennaeth llywodraeth | François-Xavier Villain, Pierre François Félix Watier d'Aubencheul |
| Gefeilldref/i | Esztergom, Kamp-Lintfort, Gravesend |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Unité urbaine de Cambrai, Aire métropolitaine de Lille |
| Sir | arrondissement of Cambrai |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 18.18 km² |
| Uwch y môr | 41 metr, 101 metr, 65 metr |
| Yn ffinio gyda | Ramillies, Tilloy-lez-Cambrai, Awoingt, Cauroir, Escaudœuvres, Fontaine-Notre-Dame, Neuville-Saint-Rémy, Niergnies, Proville, Raillencourt-Sainte-Olle, Rumilly-en-Cambrésis |
| Cyfesurynnau | 50.1758°N 3.2347°E |
| Cod post | 59400 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Cambrai |
| Pennaeth y Llywodraeth | François-Xavier Villain, Pierre François Félix Watier d'Aubencheul |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Gambrinus |
Dinas a commune yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, yn agos at y ffin â Gwlad Belg, yw Cambrai (Iseldireg: Kamerijk). Saif yn département Nord, ar lannau Afon Scheldt (a adnabyddir yn yr ardal fel Afon Escaut), tua 32 milltir (52 km) o Lille a 15 milltir (24 km) o Douai. Yn 2022 roedd gan y gymuned boblogaeth amcangyfrifedig o 31,568.[1]
Roedd y tiroedd ffrwythlon o amgylch y ddinas yn ei gwneud yn llewyrchus yn ystod yr Oesoedd Canol, a bu diwydiant gwehyddu yn ffynnu yno. Mae enw cambrig – math o liain main gwyn – yn deillio o'r fersiwn Iseldireg o enw'r ddinas (Kamerijk), a chambray – lliain ag arno weft gwyn ac ystof lliw – yn deillio o'r fersiwn Ffrengig.
Meddianwyd Cambrai gan fyddin yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod Brwydr Gyntaf Cambrai (20 Tachwedd 1917 – 3 Rhagfyr 1917) dinistriwyd rhannau helaeth o'r ddinas gan fagnelau Prydeinig. Mae'r ymladd o amgylch Cambrai yn nodedig gan ei fod yn cael ei ystyried fel y defnydd torfol cyntaf o danciau mewn brwydr. Roedd Ail Frwydr Cambrai (8–10 Hydref 1918) yn drobwynt yn y rhyfel: cipiodd y lle gan y Cynghreiriaid, a thrawsnewidiwyd yr ymladd o ryfela statig yn y ffosydd i ymgyrch o symud. Cyn cefnu ar y ddinas llosgodd yr Almaenwyr bron i hanner yr adeiladau ynddi. Fe'i cafodd ei hadfer wedyn, dim ond iddi gael ei difrodi'n helaeth gan fomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]
- Amgueddfa Cambrai
- Eglwys gadeiriol
- Twr yr hen gadeirlan[2]
- Tŷ gwnwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 9 Ionawr 2025
- ↑ Dussart, Michel (2004). Mémoire de Cambrai. Société d'Émulation de Cambrai. t. 199. ISBN 2-85845-001-3.
