Cambozola
Gwedd
| Math | caws glas, caws llaeth buwch, caws Almaenig |
|---|---|
| Deunydd | llaeth buwch |
| Gwlad | Yr Almaen |
| Dechrau/Sefydlu | 1972 |
| Enw brodorol | Cambozola |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04txdh |
Caws glas meddal wedi'i wneud o laeth buwch yw Cambozola sy'n cyfuno dull blas caws meddal addfed fel Brie o Ffrainc, a chaws glas fel Gorgonzola o'r Eidal.
Cynhyrchir Cambozola trwy ddull y mae gan y cwmni Almaenig Hofmeister-Champignon batent arno, ac mae'r caws wedi ei gynhyrchu ar gyfer y farchnad ryngwladol ers 1983[1]. Mae'n defnyddio dau fath o lwydni glas, sef Penicillium camemberti a Penicillium roqueforti. Ychwanegir hufen at y llaeth, gan roi ansawdd hufenog i'r caws, sydd â blas mwynach na llawer o fathau eraill o gaws glas.
Mae enw'r caws yn gyfansoddair cywasgedig o "Camembert" a "Gorgonzola".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "PRESS RELEASE No 11/99 : "CAMBOZOLA" EVOKES THE PROTECTED DESIGNATION "GORGONZOLA"". curia.europa.eu. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Almaeneg) Gwefan Cambozola