Caitlin MacNamara
Caitlin MacNamara | |
---|---|
Ganwyd |
8 Rhagfyr 1913 ![]() Hammersmith ![]() |
Bu farw |
31 Gorffennaf 1994 ![]() Catania ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth |
awdur, hunangofiannydd ![]() |
Tad |
Francis Macnamara ![]() |
Mam |
Yvonne Majolier ![]() |
Priod |
Dylan Thomas ![]() |
Plant |
Llewelyn Edouard Thomas, Aeronwy Thomas, Colm Garan Hart Thomas ![]() |
Roedd Caitlin Thomas, ganwyd Caitlin MacNamara (8 Rhagfyr 1913 – 31 Gorffennaf 1994) yn awdures Gymreig ac yn wraig i'r bardd a'r llenor Cymreig Dylan Thomas. Ysgrifennodd y llyfr Leftover Life to Kill.
Fe'i ganed yn Hammersmith, Llundain i Francis ac Yvonne MacNamara. Pan oedd yn 16, mynychodd ysgol ddawns. Aeth i fyw i'r Iwerddon, yn Swydd Clare, ac yna aeth i Baris.
Cyfarfu MacNarama a Thomas mewn bar yn Llundain ym 1936, a phriododd y ddau ar 11 Gorffennaf 1937 yn Penzance, Cernyw. Cawsant dri o blant.
Pan fu farw Thomas ym 1953, symudodd MacNamara i'r Eidal, lle cyfarfu a Giuseppe Fazio ym 1957, a chawsant blentyn gyda'i gilydd.
Diwylliant cyfoes[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwnaed dwy ffilm am MacNamara: The Edge of Love, a adwaenir yn flaenorol o dan ei enw gweithiol The Best Time of Our Lives, lle portreadir MacNamara gan Sienna Miller; a Caitlin (gyda Miranda Richardson a Rosamund Pike yn portreadu'r prif gymeriad ar adegau gwahanol o'i bywyd).