Neidio i'r cynnwys

Cadwyn bloc

Oddi ar Wicipedia
Cadwyn bloc
Enghraifft o:disgyblaeth academaidd, arbenigedd, maes astudiaeth, cangen economaidd, maes gwaith, diwydiant Edit this on Wikidata
Mathdistributed ledger, cronfa ddata, distributed data storage, computer network protocol, strwythur data, list Edit this on Wikidata
Yn cynnwysblock Edit this on Wikidata
Dynodwyr
QuoraBlockchain-database edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae cadwyn bloc ('blockchain' yn Saesneg),[1][2][3] yn rhestr o gofnodion o’r enw 'blociau' sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd gan ddefnyddio cryptograffeg.[4] Mae gan bob bloc ei stwnsh cryptograffig o’r bloc blaenorol, stamp amser, a data trafod (fel arfer ar ffurf stwnsh gwreiddyn coeden ‘merkle’. Mae blockchain wedi’i dylunio i wrthsefyll addasiadau i’r data. Mae’n ‘gyfriflyfr gwasgaredig ac agored sy’n gallu cofnodi trafodion rhwng dau barti yn effeithlon ac mewn dull parhaol a gwiriadwy’.[5] Pan yn cael ei ddefnyddio fel cyfriflyfr gwasgaredig, mae blockchain fel arfer yn cael ei reoli gan rwydwaith cymar-i-gymar sy’n cadw at brotocol ar gyfer cyfarthrebu rhwng-nod a dilysu blociau newydd. Unwaith mae wedi’u cofnodi, nid yw’r data mewn unrhyw bloc penodol yn gallu cael ei addasu yn ôl-weithredol heb addasu’r holl flociau canlynol, gyda chydsyniad mwyafrif y rhwydwaith. 

Er nad yw cofnodion blockchain yn amhosib i’w haddasu, gall blockchains cael eu hystyried yn ddiogel ac yn enghtaifft o system gyfrifiadurol wasgaredig gyda goddefiad gwall Bysantaidd uchel. Mae consensws datganoledig felly yn cael ei hawlio trwy blockchain.[6]

Dyfeisiwyd blockchain gan Satoshi Nakamoto yn 2008 fel cyfriflyfr ar gyfer trafodion y ‘cryptocurrency’ bitcoin.[1] Gyda dyfeisio blockchain, daeth bitcoin yn yr arian digidol cyntaf i ddatrys y broblem gwario-ddwywaith heb fod angen awdurdod sicr neu weinydd canolog. Mae dyluniad bitcoin wedi ysbrydoli cymwysiadau eraill. [1][3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 "Blockchains: The great chain of being sure about things". The Economist. 31 Hydref 2015. Archifwyd o y gwreiddiol ar 3 Gorffennaf 2016. https://web.archive.org/web/20160703000844/http://www.economist.com/news/briefing/21677228-technology-behind-bitcoin-lets-people-who-do-not-know-or-trust-each-other-build-dependable. Adalwyd 18 Mehefin 2016.
  2. Morris, David Z. (15 Mai 2016). "Leaderless, Blockchain-Based Venture Capital Fund Raises $100 Million, And Counting". Fortune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2016. Cyrchwyd 23 Mai 2016.
  3. 1 2 Popper, Nathan (21 Mai 2016). "A Venture Fund With Plenty of Virtual Capital, but No Capitalist". New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mai 2016. Cyrchwyd 23 Mai 2016.
  4. Narayanan, Arvind; Bonneau, Joseph; Felten, Edward; Miller, Andrew; Goldfeder, Steven (2016). Bitcoin and cryptocurrency technologies: a comprehensive introduction. Princeton: Princeton University Press.
  5. Iansiti, Marco; Lakhani, Karim R. (Ionawr 2017). "The Truth About Blockchain". Harvard Business Review. Prifysgol Harvard. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Ionawr 2017. Cyrchwyd 17 Ionawr 2017.
  6. Raval, Siraj (2016). "What Is a Decentralized Application?". Decentralized Applications: Harnessing Bitcoin's Blockchain Technology. O'Reilly Media, Inc. tt. 12. OCLC 968277125. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2016.