Neidio i'r cynnwys

Cadwraeth natur

Oddi ar Wicipedia
Cadwraeth natur
Gwarchodfa Natur Cors Caron
Enghraifft o:disgyblaeth academaidd, cangen o fywydeg Edit this on Wikidata
MathCadwraeth Edit this on Wikidata
Rhan ocynaliadwyedd Edit this on Wikidata
Prif bwncDifodiant, cynefin, Gwasanaethau ecosystemau, Bioamrywiaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscadwraeth bywyd gwyllt, bioleg cadwraeth, rheolaeth ecosystem, cadwraeth coedwig, cadwraeth cynefinoedd, cadwraeth planhigion, cadwraeth gwlyptiroedd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0phtk edit this on wikidata
Rhoddwyd llawer o sylw i warchod nodweddion naturiol Rhaeadr Hopetoun, Awstralia, gan ganiatáu mynediad i ymwelwyr.

Mae cadwraeth natur yn un elfen o gadwraeth, sy'n canolbwyntio ar amddiffyn rhywogaethau rhag difodiant, cynnal ac adfer cynefinoedd o fewn natur, gwella ecosystemau, a diogelu amrywiaeth fiolegol. Mae'r maes yn gorgyffwrdd â dŵr, mineralau a daeareg, gan fod newid y rhain yn cael effaith ar bethau byw. Ecoleg gymhwysol yw cadwraeth

Mae yna ystod o werthoedd sy'n sail i gadwraeth[1] ac ideolegau amgylcheddol sy'n llywio arferion ecoddiwylliannol. Yn yr 21g bu symudiad tuag at gadwraeth sy'n galw am fwy o ddefnydd o dystiolaeth wyddonol i wella effeithiolrwydd ymdrechion cadwraethol. Yn 2018 roedd 15% o dir a 7.3% o'r cefnforoedd wedi'u diogelu. Gosododd llawer o amgylcheddwyr darged o ddiogelu 30% o diriogaeth a thiriogaeth forol y Ddaear erbyn 2030.[2][3] Yn 2021, roedd 16.64% o dir a 7.9% o'r cefnforoedd wedi'u diogelu.[4][5] Mae adroddiad IPCC 2022 ar effeithiau hinsawdd ac addasu, yn tanlinellu'r angen i warchod 30% i 50% o dir, dŵr croyw a chefnforoedd y Ddaear – gan adleisio'r nod o 30% Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Fioamrywiaeth.[6][7]

Ymhellach

[golygu | golygu cod]

Mae nodau cadwraeth yn cynnwys gwarchod cynefinoedd, atal datgoedwigo, cynnal a gwella ansawdd deunydd organig y pridd, atal difodiant rhywogaethau, lleihau gorbysgota, a lliniaru newid hinsawdd. Mae gwahanol safbwyntiau athronyddol yn tywys cadwraethwyr tuag at y gwahanol nodau hyn.

Carreg glo moeseg gadwraeth yw bod gan y byd naturiol werth cynhenid ac anniriaethol ynghyd â gwerth defnyddiol – barn a draddodwyd gan rannau o'r mudiad cadwraeth gwyddonol a rhai o ysgolion Rhamantaidd hŷn y mudiad ecoleg. Mae athronwyr wedi rhoi gwerth cynhenid i wahanol agweddau ar natur, boed hyn yn organebau unigol (bioganologiaeth) neu'n gyfanweithiau ecolegol megis rhywogaethau neu ecosystemau (ecoholiaeth).[8]

Yn yr Unol Daleithiau, ym 1864 cyhoeddwyd dau lyfr a osododd y sylfaen ar gyfer traddodiadau cadwraeth Rhamantaidd ac Iwtilitaraidd yn America. Yn dilyn marwolaeth Henry David Thoreau daeth llawer i werthfawrogi ei lyfr Walden a ddarluniodd fawredd natur dilychwin fel caer i feithrin ysbryd dyn. Catalogodd llyfr gwahanol iawn gan George Perkins Marsh, sef Man and Nature, ei arsylwadau o ddyn yn blino ac yn newid y tir y mae ei gynhaliaeth yn deillio ohono. Nododd fod Parciau Cenedlaethol yn bwysig yn hanes cadwraeth natur, a sefydlwyd rhai o'r parciau cyntaf yn UDA. Disgrifiodd yr hanesydd Alfred Runte sut y cawsant eu sefydlu gyntaf a phwysleisiodd rôl "tiroedd diwerth", hynny yw, bod tir o ddiddordeb masnachol isel yn cael ei ddiogelu'n bennaf, fel cynefinoedd alpaidd a sych. Yn ogystal, mae twristiaeth, estheteg, a "monumentaliaeth" yn bwysig, yn ôl Al Runte.

Yn y gorffennol, mae cadwraeth wedi'i chategoreiddio o dan sbectrwm o safbwyntiau, gan gynnwys y tri hyn: cadwraeth anthroposentrig, cadwraeth ddefnyddiol, a safbwyntiau eco-wleidyddol gwyrdd radical sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd. Yn ddiweddar, mae'r tri phrif grŵp hyn wedi uno o fewn yr hyn a adnabyddir bellach fel 'moeseg cadwraeth'. Y person sy'n cael y clod am lunio'r moeseg gadwraeth yn yr Unol Daleithiau yw'r cyn-arlywydd, Theodore Roosevelt.[9] yr athroniaeth o reoli'r amgylchedd mewn modd nad yw'n difetha, yn gwacáu nac yn difa'r amgylchedd.

Bathwyd y term Saesneg ''conservation'' gan Gifford Pinchot ym 1907. Defnyddiodd y term mewn sgwrs gyda'i ffrind agos, Arlywydd yr Unol Daleithiau Theodore Roosevelt, ac fe'i defnyddiwyd ar gyfer cynhadledd genedlaethol o lywodraethwyr UDA ym 1908. Ymddengys i'r term Cymraeg 'cadwraeth' ddeillio o'r gair Saesneg.

Mewn defnydd cyffredin, mae'r term yn cyfeirio at y gweithgaredd o ddiogelu adnoddau naturiol fel coedwigoedd yn systematig, gan gynnwys amrywiaeth fiolegol. Mae Carl F. Jordan yn diffinio cadwraeth fiolegol fel: [10]

athroniaeth o reoli'r amgylchedd heb ei difetha, ei gwanio na'i difa.

Cadwraeth yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Corfforaethau

[golygu | golygu cod]

Rhestri

[golygu | golygu cod]

Safleoedd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Newman, Varner, Lunquist (2018). Defending Biodiversity. Cambridge University Press. ISBN 9781139024105.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. MARRIS, EMMA (31 January 2019). "To keep the planet flourishing, 30% of Earth needs protection by 2030". National Geographic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 March 2021. Cyrchwyd 18 May 2021.
  3. "New Australian Marine Parks Protect an Area Twice the Size of the Great Barrier Reef". Mongabay. Ecowatch. 14 May 2021. Cyrchwyd 18 May 2021.
  4. "Governments achieve target of protecting 17% of land globally". the Guardian (yn Saesneg). 19 May 2021. Cyrchwyd 22 April 2022.
  5. "2021's top ocean news stories (commentary)". Mongabay Environmental News (yn Saesneg). 28 December 2021. Cyrchwyd 22 April 2022.
  6. Januta, Andrea (1 March 2022). "Key takeaways from the IPCC report on climate impacts and adaptation". World Economic Forum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 March 2022.
  7. "Negotiators agree to historic biodiversity deal at COP15". euronews (yn Saesneg). 19 December 2022. Cyrchwyd 19 December 2022.
  8. Gardiner and Thompson (2017). The Oxford Handbook of Environmental Ethics. OUP.
  9. "The Conservation Ethic & The Founding the US Forest Service". Alpha Steward. 10 April 2020. Cyrchwyd 21 June 2020.
  10. Jordan, Carl (1995). Replacing Quantity With Quality As a Goal for Global Management. Wiley. ISBN 0-471-59515-2.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Frankel, O. H.; Soulé, Michael E. (1981). Conservation and evolution. Caergrawnt, Lloegr: Gwasg Prifysgol Caergrawnt. ISBN 0-521-23275-9.
  • Glacken, C.J. (1967) Olion ar Lan Rhodia. Gwasg Prifysgol California. Berkeley
  • Grove, R.H. (1992) 'Origins of Western Environmentalism', Scientific American 267(1): 22–27.
  • Grove, Richard (1997). Ecology, climate, and empire : colonialism and global environmental history, 1400-1940. Cambridge, UK: White Horse Press. ISBN 9781874267188.
  • Grove, R.H. (1995) Green Imperialism: Colonial Expansion, Tropical Island Edens, and the Origins of Environmentalism, 1600–1860 New York: Cambridge University Press
  • Pinchot, G. (1910) The Fight for Conservation New York: Harcourt Brace.
  • "Why Care for Earth's Environment?" erthygl yn rhifyn 2007 o Awake!
  • Sutherland, W.; et al. (2015). Sutherland, William J; Dicks, Lynn V; Ockendon, Nancy; Smith, Rebecca K (gol.). What Works in Conservation. Open Book Publishers. doi:10.11647/OBP.0060. ISBN 978-1-78374-157-1. Lawrlwythiad rhydd ac am ddim.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]