Cadwgan o Landyfai

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cadwgan o Fangor)
Jump to navigation Jump to search
Cadwgan o Landyfai
Ganwyd 12G Edit this on Wikidata
Llandyfái Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Ebrill 1241 Edit this on Wikidata (139 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Offeiriad, Mynach Edit this on Wikidata
Swydd Esgob Bangor Edit this on Wikidata

Roedd Cadwgan neu Cadwgan o Landyfái (bu farw 11 Ebrill 1241), y cyfeirir ato hefyd fel Cadwgan o Fangor, yn glerigwr Cymreig fu'n Esgob Bangor o 1215 hyd 1236. Ambell dro cyfeirir ato fel Martin, efallai ei enw fel mynach. Fe'i cysylltir â Llandyfai, Sir Benfro.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Gerallt Gymro, roedd tad Cadwgan yn offeiriad o Wyddel a'i fam yn Gymraes. Dywedir ei fod yn enwog am ei bregethu grymus yn Gymraeg. Daeth yn abad abaty Sistersaidd Ystrad Fflur ac wedyn Hendy-gwyn ar Dâf. Cysegrwyd ef yn Esgob Bangor gan Archesgob Caergaint ar 21 Mehefin 1215 yn Staines. Mae'n debyg fod ei benodiad yn esgob oherwydd dylanwad Llywelyn Fawr, oedd yn awyddus i gael Cymro yn hytrach na Norman neu Sais i'r esgobaeth, ac a oedd erbyn hyn yn ddigon grymus i sicrhau hyn.[1]

Yn 1234 cofnodir iddo ddod a llwyth llong o wenith o Iwerddon i fwydo'r tlodion yn ei esgobaeth. Yn 1236 ymddeolodd i Abaty Dore yn Swydd Henffordd i fyw yno fel mynach. Ysgrifennodd waith diwinyddol dan y teitl De modo confitendi.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd (1911), The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).