Cadfarch (cymuned)

Oddi ar Wicipedia
Cadfarch
Dyffryn Dyfi
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCadfarch Edit this on Wikidata
Poblogaeth855 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd10,990.06 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6°N 3.9°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000258 Edit this on Wikidata
Cod postSY20 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Cadfarch. Saif i'r de ac i'r de-ddwyrain o dref Machynlleth, ac mae'n cynnwys pentrefi Penegoes, Aberhosan a Derwen-las. Ffurfiwyd y gymuned yn 1974 trwy gyfuno plwyfi sifil Penegoes, Uwchygarreg ac Isygarreg; daw'r enw o Eglwys Sant Cadfarch, Penegoes.

O ran arwynebedd, mae Cadfarch yn un o'r cymunedau mwyaf yng Nghymru. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 849.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]

Yr hen ysgol ym Mhenegoes

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cadfarch (cymuned) (pob oed) (855)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cadfarch (cymuned)) (538)
  
64.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cadfarch (cymuned)) (558)
  
65.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Cadfarch (cymuned)) (104)
  
28.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]