Cadfan Roberts
| Cadfan Roberts | |
|---|---|
| Ganwyd | Cadfan Dylan Roberts 25 Ebrill 1956 Sir y Fflint |
| Alma mater | Ysgol Maes Garmon Coleg Cerdd a Drama'r Guildhall, Llundain |
| Galwedigaeth | actor, awdur, cynghorydd |
Actor Cymraeg o Sir y Fflint yw Cadfan Roberts (ganwyd 25 Ebrill 1956)[1] neu Cadfan Dylan Roberts, sy'n fwyaf adnabyddus am ei bortread o "Glan Morris" yn y gyfres Pobol y Cwm rhwng 1989 a 1996. Bu'n portreadu nifer o gymeriadau ar lwyfannau a theledu yng Nghymru ers y 1980au gan gynnwys y prif gymeriad yn y gyfres Mostyn Fflint n' Aye! a gyd-greodd ei hun. Bu hefyd yn ran o'r cyfresi Treflan, 9 tan 9, Tipyn o Stad, Bowen a'i Bartner a The District Nurse. Cafodd y brif ran yn ffilm Siôn Eirian, Marwolaeth yr Asyn o Fflint ym 1983.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Maes Garmon ac yna yng Ngholeg Cerdd a Drama's Guildhall, Llundain gan raddio ym 1976.[3][1]
Mae'n briod ac mae ganddynt 2 o blant.
Yn 2013, ac yntau yn byw yng Ngharmel, Caernarfon, penderfynodd sefyll fel ymgeisydd yn yr Etholiadau Lleol ar ran y blaid annibynnol Llais Gwynedd. Ar y pryd, roedd yn gweithio fel ysgubwr simneiau yn y gymuned, ac yn gynghorydd cymunedol.[4]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]- Bownsars (1998) Cwmni Theatr Gwynedd
Ffilm a Theledu
[golygu | golygu cod]- Y Graith (1980)
- Ennal's Point (1982)
- Nye (1982)
- Coleg (1982)
- Newydd Bob Nos (1982-1983)
- Almanac (1983)
- Marwolaeth yr Asyn o Fflint (1983)
- The Extremist (1984)
- Minafon (1985)
- Bowen a'i Bartner (1985)
- Sul y Blodau (1986)
- The District Nurse (1987)
- Cysgodion Gdansk (1987)
- Child of Love (1987)
- Dilyn Y Ddraig (1988)
- Screenplay (1988)
- Pobol y Cwm (1989 - 1996)
- Yr Aduniad (1998)
- Human Traffic (1999)
- 9 tan 9 (2002)
- Treflan (2002)
- Y Stafell Ddirgel
- Tipyn o Stad (2003 - 2005)
- Mostyn Fflint 'n Aye! (2004)
- Bolan's Shoes (2023)
- Bariau (2024)
- Henry House (2025)
- Box of Frogs (2025)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Facebook".
- ↑ "Cadfan Roberts". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-10-29.
- ↑ "Gwefan Linkedin".
- ↑ Administrator, northwales (2013-04-19). "'Why I decided to make a stand in election'". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-29.