Cadair blygu

Oddi ar Wicipedia
Cadair blygu (neu gadair gynfas) draddodiadol

Math penodol o gadair sydd fel arfer gyda ffrâm o bren neu ddeunydd arall, a sedd a chefn o ffabrig yw cadair blygu (neu gadair gynfas). Mae'r term fel arfer yn dynodi cadair blygu sy'n gludadwy, gyda stribed unigol o ffabrig neu finyl yn ffurfio'r cefn a'r sedd. Mae wedi'i fwriadu ar gyfer hamddena, yn wreiddiol ar fwrdd llong fawr. Mae'n hawdd ei chludo a'i bentyrru, er bod rhai mathau yn anodd eu plygu a'u hagor. Gall fersiynau gwahanol gynnwys rhai gyda sedd estynedig, er mwyn gorffwys y coesau arni, yn rhai y gellir addasu eu huchder, neu â mannau i orffwys y breichiau.

Yng Ngogledd Ewrop, mae olion cadeiriau plygu i'w cael sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd. Defnyddiwyd cadeiriau plygadwy hefyd yn yr Hen Aifft, Gwlad Groeg a Rhufain. Yn ystod yr Oesoedd Canol, defnyddiwyd y gadair blygu'n helaeth fel darn dodrefn litwrgaidd.

Yn yr Unol Daleithiau, rhoddodd John Cham batent ar gadair blygu yn 1855.[1] Dechreuwyd defnyddio cadeiriau plygu pren gyda seddi a chefnau wedi'u gwehyddu neu gansen, o'r math a adwaenir bellach yn y DU fel "cadeiriau stemar" ar deciau llongau mawr o'r tua 1860au, ac roeddent yn hysbys ar y pryd fel "cadeiriau dec". Nid yw'n eglur a gawsant eu gwneud gyntaf yn yr Unol Daleithiau neu yng ngwledydd Prydain.[2] Yn Lloegr, cymerodd John Thomas Moore (1864-1929) batent ar gyfer cadeiriau plygu addasadwy a chludadwy yn 1886, a dechreuodd eu gweithgynhyrchu yn Macclesfield.[3] Gwnaeth Moore ddau fath: y Waverley, a ddisgrifiwyd fel "y gadair orau ar gyfer llong neu denis lawnt", a'r Hygienic, a oedd yn gadair siglo "oedd yn werthfawr i'r rhai sydd â choluddion araf a rhwystredig". [4]

Daeth cadair plygu yn boblogaidd iawn ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif.

Mae cadair haul hir yn debyg i cadair blygu, ond ar ffurf gwely. Gellir symud yr arwyneb cefn er mwyn i'r defnyddiwr allu eistedd a darllen, neu gellir ei ail-leinio i arwyneb gwastad er mwyn i'r defnyddiwr gysgu yn y safle llorweddol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Patent 13479, Folding Chair
  2. [1] Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback.Antony Woodward, Design Dinosaurs: 5. The Deck Chair, The Independent, 27 February 1994. Retrieved 31 December 2012
  3. Arts Journal, "Royal Deck Chairs", 29 May 2008. Retrieved 7 June 2015
  4. The Guardian, Notes and Queries, "Who invented the deck chair?". Retrieved 31 December 2012