Cañon City, Colorado
![]() | |
Math |
dinas yn yr Unol Daleithiau America ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
16,679 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser |
Mountain Time Zone ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Swydd Fremont ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
31,200,000 m² ![]() |
Uwch y môr |
1,625 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
38.4467°N 105.228°W ![]() |

Cañon City /ˈkænjən ˈsɪti / yw'r dref sirol a'r dref fwyaf poblog yn Swydd Fremont, Colorado. Poblogaeth y ddinas yn 2010 oedd 16,400. Mae Cañon City ar lan Afon Arkansas ac mae'n ganolfan boblogaidd i dwristiaid oherwydd ei chwaraeon dŵr ewyn-gwyllt, fel rafftio.
Cynnwys
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynlluniwyd y ddinas yn wreiddiol ar 17 Ionawr 1858, yn ystod Rhuthr Aur Pike's Peak, ond safai'r tir yn hesb nes i gwmni fachu'r safle yn hwyr yn 1859 gan adeiladu'r adeilad cyntaf yn Chwefror 1860. Bwriadwyd y ddinas fel canolfan fasnachol ar gyfer mwyngloddio.
Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Tyfodd poblogaeth y dref o 229 yn 1870 i 1,501 yn 1880. Yn 2010 roedd wedi tyfu i tua 16,400.
Hynodrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n ddinas yn enwog fel lleoliad naw carchar taleithiol a phedwar dalfa (penitentiary) ffederal. Mae arwydd croeso'r ddinas yn datgan, "Corrections Capital of the World."[1]
Un hynodrwydd arall i'r ddinas yw i'r United States Board on Geographic Names ganiatáu ychwanegu'r 'sgwigl' (tilde]) i enw swyddogol y ddinas yn 1984. Sillafiad swyddogol y ddinas, felly, yw "Cañon City". Newidwyd yr enw'n swyddogl o Canon City yn 1906 ac yn 1975. Mae'n un o'r ychydig ddinasoedd yn UDA i ddefnyddio Ñ yn ei henw. Yr enghreifftiau eraill yw: La Cañada Flintridge, Califfornia, Española, Peñasco, a Cañones, y tri ym Mecsico Newydd.
Canon City yw cyrchfan Byddin Gêl yn y nofel a'r gyfres deledu distopiaidd The Man in the High Castle. Mae Juliana yn y gyfres yn mynd yno er mwyn cludo rîl ffilm gudd i'r 'dyn yn y castell uchel'. Mae Canon City (ynganir heb y tilde yn y gyfres) yn rhan o diriogaeth niwtral y Mynyddoedd Creigiog sy'n gorwedd rhwng Reich Fawr Naziaidd i'r Dwyrain a Thaleithiau Môr Tawel Japan i'r gorllewin.