C.P.D. Airbus UK Brychdyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o C.P.D. Airbus UK)
C.P.D. Airbus UK
Enw llawn Clwb Pêl-droed Airbus U.K
Llysenw(au) The Wingmakers
Sefydlwyd 1946 (fel Vickers-Armstrong)
Maes The Airfield, Brychdyn
Cadeirydd Paul McKinlay
Rheolwr Baner Cymru Andy Thomas
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2018/19 1 (Cymru Alliance)

Clwb pêl-droed o dref Brychdyn, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Airbus UK Brychdyn (Saesneg: Airbus UK Broughton Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.

Ffurfiwyd y clwb ym 1946 fel clwb pêl-droed ffatri awyrennau Vickers-Armstrong sydd, erbyn heddiw, yn berchen i gwmni Airbus. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Y Maes Awyr, maes sy'n dal uchafswm o 1,600 o dorf.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfwyd y Clwb ym 1946, fel CPD Vickers-Armstrong ac ers hynny mae'r clwb wedi newid eu henwau wrth i'r ffatri newid perchnogaeth. Dros y blynyddoedd maent wedi eu hadnabod fel de Havillands, Hawker Siddeley, British Aerospace, a BAE Systems.

Ar ôl treulio blynyddoedd yng Nghynghreiriau Caer a'r Cyffiniau ac Ardal Wrecsam, dechreuodd y clwb esgyn trwy'r cynghreiriau cyn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol Cymru ar ddiwedd tymor 1999–2000[1]. Yn eu tymor cyntaf yn y Gynghrair Undebol newidiwyd eu henwau i Airbus UK a sicrhawyd dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwedd tymor 2003-04[2].

Llwyddodd y clwb i sicrhau eu lle yn nghystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf yn 2013-14 ac er sicrhau dwy gêm gyfartal yn erbyn Ventspils o Latfia, colli oedd hanes Airbus diolch i'r rheol goliau oddi cartref.

Record yn Ewrop[golygu | golygu cod]

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2013–14 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Latfia Ventspils 1–1 0–0 1–1 (a)
2014–15 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Norwy FK Haugesund 1-1 1-2 2–3
2015–16 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1 Baner Croatia Lokomotiva Zagreb 1-3

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Welsh Football Data Archive: Wrexham Area League 1999-2000". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh Football Data Archive: Cymru Alliance 2003-04". Unknown parameter |published= ignored (help)