Côr Meibion Cymry Dulyn
Enghraifft o'r canlynol | côr meibion |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1960s |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Cafodd Côr Meibion Cymry Dulyn (Saesneg: Dublin Welsh Male Voice Choir) ei ffurfio yn y 1960au gan Gymry yn Nulyn, prifddinas Iwerddon. Er bod rhai o'r aelodau yn dod o Iwerddon a thu hwnt mae naws Gymreig o hyd i'r repertoire.
Maent yn ymarfer bob nos Lun yn ardal Donnybrook, Dulyn. Er dros ugain mlynedd mae Keith Young wedi gweithio fel cyfarwyddwr cerddorol.
Dolennau allanol[golygu | golygu cod]
- Gwefan swyddogol
- Draigwerdd Archifwyd 2015-08-12 yn y Peiriant Wayback.