Cædmon
| Cædmon | |
|---|---|
Cofeb i Cædmon ym Mynwent y Santes Fair, Whitby. | |
| Ganwyd | Unknown Northumbria |
| Bu farw | Unknown Whitby Abbey |
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
| Llenyddiaeth Hen Saesneg |
|---|
|
Arwrgerddi |
|
Rhyddiaith |
Bardd Hen Saesneg a mynach o Loegr oedd Cædmon (/ˈkædmən, ˈkædmɒn/; blodeuai 657–684).[1] Efe yw'r bardd Saesneg cynharaf y mae ei enw'n hysbys, ac mae ei unig waith sy'n goroesi, "Emyn Cædmon", yn un o'r ddwy gerdd Hen Saesneg gynharaf; y llall yw mawlgan ddienw "Widstith", sydd hefyd yn dyddio o ail hanner y 7g. Bugail gwartheg o Northymbria oedd Cædmon a oedd yn gofalu am yr anifeiliaid ym mynachlog ddeuol Streonæshalch (bellach Abaty Whitby) yn ystod abadaeth y Santes Hilda. I ddechrau, roedd yn anwybodus o "gelfyddyd y gân", ond dysgodd farddoni un noson mewn breuddwyd, yn ôl hanes Beda. Daeth yn ddiweddarach yn fynach selog ac yn fardd Cristnogol medrus ac ysbrydoledig. Fe'i parchir fel sant yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, a'r Cymundeb Anglicanaidd, gyda'i ŵyl ar 11 Chwefror.
"Emyn Cædmon" ydy'r enghraifft gyntaf o farddoniaeth Gristnogol yn llenyddiaeth Saesneg. Mawlgan fer ydyw sy'n moli'r Creu a'r Creawdwr. Naw llinell sydd gan y pennill hwn, a gyfansoddwyd ar fydr gyflythrennol, yn ôl dull yr Eingl-Sacsoniaid. Yn hanesyddol, priodolid iddo sawl gwaith arall, sef yr aralleiriadau Beiblaidd a gynhwysir yn Llawysgrif Junius, a elwid gynt Llawysgrif Cædmon. Fodd bynnag, dangosa astudiaethau modern i'r cerddi yn y llawysgrif honno gael eu hysgrifennu ar wahanol amseroedd a chan wahanol awduron.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Henry Bradley (1886). . In Lee, Sidney (gol.). Dictionary of National Biography (yn Saesneg). Llundain: Smith, Elder & Co. tt. 195–201.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Robert T. Gaskin, Caedmon: The First English Poet (M.S.G. Haskell House, 1990).