Neidio i'r cynnwys

Cân i Gymru 2026

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru 2026
Rownd derfynol 28 Chwefror 2026
Lleoliad Maes Sioe Môn
Artist buddugol Sara Owen
Cân fuddugol Y Gân
Ysgrifenn(wyr) buddugol Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer
Cân i Gymru
◄ 2025        

Cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru 2026 ar Faes Sioe Môn ger Gwalchmai, ar 28 Chwefror. Y cyflwynwyr oedd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.[1]

Osian Huw Williams oedd cadeirydd panel y beirniaid a'r aelodau eraill oedd Barry 'Archie' Jones o'r band Celt, y gantores a'r gyfansoddwraig, Mali Hâf, y cyflwynydd a'r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.[2]

£5,000 oedd y brif wobr ac roedd enillydd yr ail wobr yn derbyn £3,000 ac enillydd y drydedd yn derbyn £2,000. Eleni am y tro cyntaf roedd y pleidleisio i gyd ar lein, gyda un pleidlais i bob cyfeiriad ebost.

Y gan fuddugol oedd "Y Gân", a gyfansoddwyd gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer ac a berfformiwyd gan Sara Owen.[3]

Cystadleuwyr

[golygu | golygu cod]
Trefn Perfformiwr/wyr Cân Cyfansoddw(y)r Safle Gwobr
1 Rhodri Lloyd Evans Storm Heno Rhodri Lloyd Evans 3ydd £2,000
2 Lowri Evans Chwilio Am Ffordd Adra Geth Tomos, Henry Priestman, John Beck, Adam Dennis ac Emlyn Gomer
3 Rhi Jorj Dalen Newydd Rhi Jorj a Gwynedd Maesywaun
4 Ruby Dwisho Deud Ruby ac Endaf
5 Dan Williams Byd fy Hun Dan Williams
6 Lowri Clancy Davies a'i chwaer, Cifa Hiraeth Lowri Clancy Davies
7 Jacob Elwy a Lleucu Gwawr Y Gwanwyn Bach Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd 2il £3,000
8 Sara Owen Y Gân Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer 1af £5,000

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cân i Gymru yn dychwelyd i Ynys Môn yn 2026". BBC Cymru Fyw. 2025-08-07. Cyrchwyd 2026-02-15.
  2. "Cân i Gymru 2026: Pwy yw'r wyth ymgeisydd eleni?". BBC Cymru Fyw. 2026-02-17. Cyrchwyd 2026-02-17.
  3. "'Y Gân' gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer yn ennill Cân i Gymru 2026". newyddion.s4c.cymru. 2026-02-28. Cyrchwyd 2026-02-28.