Cân i Gymru 2025
Cân i Gymru 2025 | |
---|---|
![]() | |
Rownd derfynol | 28 Chwefror 2025 |
Lleoliad | Dragons Studio |
Artist buddugol | Dros Dro |
Cân fuddugol | Troseddwr Yr Awr |
Cân i Gymru | |
◄ 2024 ![]() |

Cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru 2025 yn Dragons Studios, Pen-y-bont ar Ogwr, ar 28 Chwefror. Y cyflwynwyr oedd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.[1]
Y prif wobr oedd £5,000, ac roedd enillydd yr ail wobr yn derbyn £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn derbyn £2,000. Roedd 109 o ymgeiswyr eleni a beirniaid y panel oedd Peredur ap Gwynedd, Caryl Parry Jones, Sage Todz a Catty - gydag Osian Huw Williams, prif leisydd Candelas, yn cadeirio.
Yn dilyn trafferthion gan rai gwylwyr yn pleidleisio ar y ffôn y llynedd, newidiwyd y broses. Yn hytrach na galw rhif ffôn penodol, y drefn oedd pleidleisio ar lein ac am ddim (un pleidlais i bob cyfeiriad e-bost).[2]
Y gan fuddugol oedd "Troseddwr Yr Awr", a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd gan y grŵp Dros Dro o Sir Gâr - mae'r aelodau yn gyn-ddisgyblion Ysgol Maes y Gwendraeth ac Ysgol Bro Myrddin.[3]
Trefn | Perfformiwr/wyr | Cân | Cyfansoddw(y)r | Safle | Gwobr |
---|---|---|---|---|---|
1 | Dros Dro | Troseddwr Yr Awr | Dros Dro | 1af | £5,000 |
2 | Lewys Meredydd | Am Byth | Geth Vaughan | ||
3 | Catrin Angharad Jones | Torra Dy Gwys | Elfed Morgan Morris, Carys Owen, Emlyn Gomer Roberts | ||
4 | Garry Owen Hughes | Gwydr Hanner Llawn | Garry Owen Hughes | ||
5 | Heledd a Mared Griffiths | Mae'r Amser Wedi Dod | Heledd a Mared Griffiths | ||
6 | Gwen Edwards | Lluniau Ar Fy Stryd | Meilyr Wyn | 3ydd | £2,000 |
7 | Geth Vaughan | Hapus | Geth Vaughan | ||
8 | Marc Skone | Diwedd Y Byd | Marc Skone | 2il | £3,000 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Price, Stephen (2025-02-17). "Cân i Gymru 2025 shortlist announced". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-19.
- ↑ "Cân i Gymru: Newid y system bleidleisio wedi trafferthion". BBC Cymru Fyw. 2025-02-26. Cyrchwyd 2025-03-19.
- ↑ "Y grŵp Dros Dro yn ennill Cân i Gymru 2025". BBC Cymru Fyw. 2025-02-28. Cyrchwyd 2025-03-19.
|