Byw yn y Wlad (rifiw)
| Enghraifft o: | sioe lwyfan Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1976 |
| Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
| Dynodwyr | |
Cynhyrchiad cyntaf y cynllun Theatr Antur o dan adain Cwmni Theatr Cymru oedd Byw yn y Wlad a lwyfannwyd yn yn wreiddiol yng Ngwynedd ac yna ar daith drwy Gymru, ac yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Criw o actorion ifanc gan gynnwys Valmai Jones, Grey Evans, Dyfan Roberts a Sharon Morgan oedd yn gyfrifol am greu'r sioe a ddisgrifiwyd fel "Rifiw Gymraeg". Tyfodd y sioeau yma a'r cynllun newydd gan yr actorion ifanc yn fodd i sefydlu cwmnïau drama megis Theatr Bara Caws, Theatr Ddiethr a Theatr yr Ymylon.[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]

Nid oes rhestr o "gymeriadau" penodol, gan fod y cwmni yn portreadu nifer fawr o gymeriadau gwahanol. Yr actorion a'r cerddorion yn y cynhyrchiad cyntaf oedd Cenfyn Evans, Iestyn Garlick, Sharon Morgan, Grey Evans, Valmai Jones, Gwyn Parry, Dyfan Roberts a Dyfed Thomas.[2] Nodwyd mai "am gyfnod" yn unig y bu Dyfed yn rhan o'r prosiect.[2]

Disgrifiad
[golygu | golygu cod]"Rifiw Gymraeg" ar fywyd cefn gwlad oedd y cynhyrchiad, "a'i chyflwyno yn null theatr gymuned" oedd y bwriad.[2] "Rhoid pwyslais, felly, ar ddwyn y gynulleidfa i mewn i'r hyn a ddigwyddai a dileu'r gwahaniaeth sy'n bodoli mewn drama rhwng actorion ar lwyfan a chynulleidfa", eglura'r Rhaglen.[2]
"Bwriedir iddi fod yn gartrefol, agos-atoch, ac eto'n cynnwys sylwedd theatrig a sylwadaeth gymdeithasol. Arbrawf mewn creu theatr gymuned yn Gymraeg ydyw".[2]
"Cymysgfa o actio, canu a hiwmor ond gydag ochor wleidyddol iddi hefyd" ydi'r modd mae Llŷr Titus yn disgrifio'r sioe yng nghyfrol dathlu 40 mlynedd Theatr Bara Caws, "Roedd angen newid dillad yn sydyn, ac actio cartwnaidd i wneud pwyntiau gwleidyddol mewn ffordd uniongyrchol, a daeth y patrwm yn un cyfarwydd", ychwanegodd.[1]
Lleolwyd y digwydd mewn pentref o'r enw "Popty Bach".[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ynghanol y 1970au, roedd criw o actorion ifanc, "actorion cysylltiol" Cwmni Theatr Cymru, yn anhapus gydag arlwy arferol y cwmni o ddramâu Clasurol neu Grefyddol.[1] Crëwyd Theatr Antur o dan adain y prif gwmni, er mwyn iddynt gael arbrofi a chreu sioeau unigryw i blesio'i hunan.[2] Yr actorion a gysylltir â'r fenter newydd hon oedd Sharon Morgan, Grey Evans, Valmai Jones, Gwyn Parry, Dyfan Roberts, Dyfed Thomas, Cenfyn Evans ac Iestyn Garlick.[1][2] Diolchwyd i Wil Sam Jones am ei "gymorth gyda pharatoi'r sgript a'i golygu" hefyd.[2] Yn ddiweddarach, daeth yr actorion Cefin Roberts, Iola Gregory a Wyn Bowen Harries, ymysg nifer eraill, i fod yn rhan o'r cynllun.
Mae peth anghytuno ynghylch pwy yn union oedd yn gyfrifol am y syniad craidd, gyda rhai yn honi mai syniad Wilbert Lloyd Roberts ei hun oedd o, tra bod eraill yn taeru mai'r actorion ifanc eu hunain oedd wedi gofyn i Wilbert greu'r is-gwmni.[1] "Cafodd actorion cysylltiol Theatr Cymru gyfle fis Rhagfyr diwethaf [1975] i lunio a chyflwyno rhaglen o'u gwaith eu hunain yng Ngwynedd" oedd yr eglurhad swyddogol, yn rhaglen y cynhyrchiad.[2]
"Tasg wahanol fyddai gan y cnewyllyn newydd hwn", yn ôl Llŷr Titus, yng nghyfrol dathlu 40 mlynedd Theatr Bara Caws, "...nid dal ati hefo'r un arlwy ond gwneud rhywbeth rhyw fymryn yn wahanol, ond o dan law Wilbert o hyd", ychwanegodd.[1]
Yn ôl Sharon Morgan, "rhywbeth a fyddai'n rhoi proc i bethau" oedd bwriad Theatr Antur, "...yn berthnasol, ac yn trafod problemau'r cymunedau y byddai'r cynhyrchiad yn ymweld â nhw", nododd Titus yn ei gyfrol.[1]
Wedi arbrofi mewn rhai cymunedau yng Ngogledd Cymru, holodd aelodau'r cwmni a fyddai modd iddynt lwyfannu'r cynhyrchiad yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Noda Titus bod yna wrthdaro unwaith eto gyda rhai actorion yn cofio bod Wilbert wedi bod yn "gefnogol iawn i'r fenter" tra bod eraill yn dweud iddo wrthod, "gan fod Cwmni Theatr Cymru eisoes wedi trefnu i berfformio drama yno [yr Eisteddfod]"[1] Aeth yr actorion ati "ar eu liwt eu hunain" ychwanegodd Titus, a phenderfynu mynd â'r sioe i'r Eisteddfod prun bynnag.[1]
Tra yn Aberteifi, mae Dyfan Roberts yn cofio mai yno, "dyma ni'n dechrau sôn - Valmai, finna, Iola a Sharon - y bysa'n neis gwneud y math yma o beth yn llawn amser", a dyna gychwyn gosod yr hadau ar gyfer Theatr Bara Caws.[1]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y "rifiw" am y tro cyntaf yn 1975, cyn mynd ar daith yn ystod y Gwanwyn 1976 yng Ngwynedd "a gorllewin Clwyd" cyn i'r cwmni addasu tipyn ar y gwaith, a'i theithio drwy Gymru.[2]
Canmolodd yr actores, darlithydd a chyfarwyddydd theatr Emily Davies y "...bobl ifanc yma sydd wedi gweld yr angen am newid", nododd yn Barn [Medi 1976] wrth adolygu arlwy'r ddrama'r Eisteddfod.[3] "Yn sicr pobl ydynt sydd wedi cael yr amser i fyfyrio dros ddatblygiadau byd-eang ym myd y ddrama, ac wedi derbyn y cyfle i ymarfer, darganfod ac arbrofi. Pobl sydd yn gwybod beth o'r gloch yw hi ym myd y theatr Gymraeg; a'i bod yn hen bryd i edrych i'r dyfodol yn hytrach na'r gorffennol", ychwanegodd.[3] Ar gychwyn y 1980au, bu i Emily Davies ddod yn gyfarwyddwr artistig ar Gwmni Theatr Cymru, wedi ymadawiad Wilbert Lloyd Roberts.
Oriel 1975
[golygu | golygu cod]- Cynhyrchiad Theatr Antur - adain ieuenctid Cwmni Theatr Cymru yn 1975 - Rifiw Cymraeg o'r enw Byw yn y Wlad
-
Byw yn y Wlad (1975) Iestyn Garlick.
-
Byw yn y Wlad (1975) Cenfyn Evans,
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 Titus, Llŷr (2017). Theatr Bara Caws : Dathlu'r Deugain. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845275419.
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 Rhaglen y sioe. Cwmni Theatr Cymru. 1976.
- ↑ 3.0 3.1 Davies, Emily (Medi 1976). "Dramâu'r Eisteddfod". Barn.