Neidio i'r cynnwys

Byrmaneg

Oddi ar Wicipedia
Byrmaneg
Enghraifft o:iaith naturiol, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathIeithoedd Sino-Tibetaidd Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolမြန်မာဘာသာစကား Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 32,900,000 (2019),[1]
  •  
  • 32,035,300 (2000),[2]
  •  
  • 10,000,000 (2000)
  • cod ISO 639-1my Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2mya, bur Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3mya Edit this on Wikidata
    GwladwriaethMyanmar Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuBurmese alphabet, Mon–Burmese script Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioMyanmar Language Commission Edit this on Wikidata
    Dynodwyr
    Freebase/M/01xrrm edit this on wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Iaith Dibeto-Bwrmaidd, cangen o'r teulu Sino-Tibetaidd, yw Byrmaneg sydd yn iaith swyddogol ym Myanmar. Hon yw iaith frodorol y Bamar ac ambell grŵp ethnig arall, er enghraifft y Mon. Fe'i siaredir gan drwch y boblogaeth ym Myanmar ac yn ail iaith gan y mwyafrif o siaradwyr ieithoedd eraill y wlad. Ysgrifennir mewn gwyddor sydd yn seiliedig ar yr iaith Bali.

    Rhyw 30 miliwn o bobl Myanmar sydd yn rhugl yn y Fyrmaneg, ac maent yn cyfri am tua hanner o holl siaradwyr yr ieithoedd Tibeto-Bwrmaidd. Perthyna Byrmaneg yn agos i'r ieithoedd Lolo yn y gangen hon.

    Ymddangosodd y ffurf hynaf ar yr iaith, Hen Fyrmaneg, yn Nheyrnas Pagan, yn y 12g. Datblygodd yn Fyrmaneg Canol yn yr 16g, a drawsnewidiwyd yn Fyrmaneg Modern yn y 18g. Mae'r iaith safonol fodern yn hynod o wahanol i Hen Fyrmaneg o'i chymharu â thafodieithoedd megis Aracaneg.

    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL Global, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, OL20243680W, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
    2. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL Global, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, OL20243680W, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/