Byd a Betws (drama deledu)
| Enghraifft o: | cyfres ddrama deledu |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1966 |
| Golygydd | Gwenlyn Parry |
| Awdur | Idwal Jones a Gruffudd Parry |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | BBC Cymru |
| Math | drama deledu |
| Dyddiad y perff. 1af | 28 Rhagfyr 1966 |
| Hyd | 16 Pennod |
| Cyfarwyddwr/wyr | George P Owen |
| Cynhyrchydd/wyr | Wilbert Lloyd Roberts |
| Cwmni cynhyrchu | BBC Cymru |
| Dynodwyr | |

Cyfres ddrama deledu Gymraeg o'r 1960au yw Byd a Betws a gynhyrchwyd gan BBC Cymru. Idwal Jones a Gruffudd Parry oedd yr awduron, a Gwenlyn Parry oedd y Golygydd.[1] Darlledwyd y gyfres o 28 Rhagfyr 1966 ar BBC Cymru, ond bu Rowland Lucas yn dilyn hanes y cyn-gynhyrchu yn wythnosol yn Y Cymro, yn ystod yr Hydref 1966. Roedd 16 pennod yn y gyfres.[2]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]
"Darlun o fywyd pob dydd tri theulu mewn pentref ar lan y môr" yw prif plot y gyfres, yn ôl y newyddiadurwr Rowland Lucas yn Y Cymro [Tachwedd 1966]

"Mae Byd a Betws mewn dwy ran", dywed Lucas yn Rhagfyr 1966, "Yn y rhan gyntaf, cewch gwrdd â hen weinidog; yn yr ail ran, â gweinidog newydd. Mae mwy o wahaniaeth rhyngddynt nag oedran yn unig. Mae agwedd y ddau at y byd o'n cwmpas yn wahanol hefyd."[3]
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Cafodd y ddrama ei hymarfer yn Neuadd Y Felinheli ym 1966, cyn symud i 'stiwdio'r' BBC [Stwidio A Broadway] yng Nghaerdydd ar gyfer y saethu. Dibynodd Wilbert Lloyd Roberts ar Gwmni Theatr Cymru am nifer o actorion.[4]
Mae'r actor John Ogwen yn sôn am ddigwyddiad yn gysylltiedig â'r gyfres, pan oedd yn teithio drama gyda Chwmni Theatr Cymru ym 1968. "Doedden ni ddim yn siwr o'r ffordd, a chan fod Aberdâr yn frith a strydoedd un-ffordd a phlismyn llygadog penderfynasom stopio i ofyn cyfarwyddyd. Daeth hen wreigan at y car a gofynnais y cwestiwn tyngedfennol. Edrychodd yn hir arnaf, ac wedyn ar Huw [Tudor]. Adnabu Huw yn syth fel Conrad Ellis y twyllwr a minnau fel Jim Charles y drug-pedlar, o'r ddrama gyfres 'Byd a Betws' ac 'roedd hi'n anfodlon iawn i gael ei gweld yn siarad â ni!"[5]
Criw
[golygu | golygu cod]- Cynhyrchydd - Wilbert Lloyd Roberts
- Cyfarwyddwr - George P Owen
- Cynorthwydd Cynhyrchu - Eifiona Llewelyn Hughes
- Ysgrifenyddes - Margaret Morris
- Cynllunydd - Pauline Harrison a Peter Phillips
- Rheolwr Llawr - Robin Hughes
- Prif Gynorthwydd Cynhyrchu - John Hefin Evans
- Props - Pat Burge a Dave Phillips
- Gwisgoedd - Coleen O'Brien
- Coluro - Lynne Gleave
Cymeriadau a'r cast
[golygu | golygu cod]- Solomon Jones - Charles Williams
- Parch Glanffrwd Morris - E. T Edwards
- Olga Bevan - Gaynor Morgan Rees
- Mrs Orme-Jones - Nesta Harris
- Rici Ward - Owen Garmon
- Morfydd Orme-Jones - Beryl Williams
- Cadwaladr Orme-Jones - Llew Thomas
- Conrad Ellis - Huw Tudor
- Jim Charles - John Ogwen