Bwrdeistrefi metropolitan Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Math o ardal llywodraeth leol yn Lloegr yw bwrdeistref fetropolitan. Mae'n israniad o sir fetropolitan. Crëwyd y bwrdeistrefi metropolitan yn 1974 gan Deddf Llywodraeth Leol 1972. Maent wedi bod yn ardaloedd awdurdodau unedol yn effeithiol ers diddymu'r cynghorau sir fetropolitan gan Deddf Llywodraeth Leol 1985.

Mae 36 o fwrdeistrefi yn Lloegr:

Sir fetropolitan Bwrdeistrefi metropolitan
Manceinion Fwyaf Manceinion, Bolton, Bury, Oldham, Rochdale, Salford, Stockport, Tameside, Trafford, Wigan
Glannau Merswy Lerpwl, Knowsley, St Helens, Sefton, Wirral
De Swydd Efrog Sheffield, Barnsley, Doncaster, Rotherham
Tyne a Wear Newcastle upon Tyne, Gateshead, De Tyneside, Gogledd Tyneside, Sunderland
Gorllewin Canolbarth Lloegr Birmingham, Coventry, Dudley, Sandwell, Solihull, Walsall, Wolverhampton
Gorllewin Swydd Efrog Leeds, Bradford, Calderdale, Kirklees, Wakefield