Bwrdeistrefi Sir Fynwy (etholaeth seneddol)

Oddi ar Wicipedia
Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholaeth Bwrdeistref
Creu: 1542
Diddymwyd: 1918
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un
Map o Sir Fynwy yn dangos ffiniau etholaeth Bwrdeistrefi Sir Fynwy 1885 - 1918 (mewn pinc)

Roedd Bwrdeistrefi Sir Fynwy yn etholaeth hanesyddol Gymreig a oedd yn arfer dychwelyd un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin o 1542 i 1918

Hanes[golygu | golygu cod]

Crëwyd yr etholaeth o dan Ddeddfau Uno Cymru a Lloegr danfonwyd ei gynrychiolydd cyntaf i San Steffan ym 1542. Yn wreiddiol roedd yr etholfraint yn perthyn i fwrdeiswyr Trefynwy, Caerllion, Casnewydd, Tryleg, Brynbuga, Cas-gwent, Y Fenni ac o bosib y Grysmwnt. Ym 1680 bu achos llys i herio canlyniad etholiad pan geisiodd Trefynwy i ddychwelyd aelod i'r Senedd heb gynnwys y bwrdeistrefi eraill. Canlyniad yr achos oedd datgan bod yr hawl i bleidleisio yn perthyn i'r rhyddfreinwyr a oedd yn preswylio yn Nhrefynwy, Casnewydd a Brynbuga.

Cafodd yr etholaeth ei ddiddymu o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, gyda Chasnewydd yn dod yn fwrdeistref seneddol yn ei rhinwedd ei hun, tra fo Trefynwy a Brynbuga yn cael eu cynnwys yn etholaeth sirol Mynwy.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

1542-1831[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Aelod
1542 Thomas Kynnyllyn[1]
1545 Richard Morgan [1]
1547 Giles Morgan[1]
1553 (Maw) anhysbys[1]
1553 (Hyd) John Philip Morgan[1]
1555 Thomas Lewis[1]
1558 Matthew Herbert[1]
1559 Moore Powell [2]
1571 Charles Herbert [2]
1572 Moore Powell
1576 Syr William Morgan [2]
1584 Moore Gwillim [2]
1586 Moore Gwillim [2]
1588 Philip Jones [2]
1593 Edward Hubberd [2]
1597 Syr Robert Johnson [2]
1621 Thomas Ravenscroft
1624 Walter Stewart
1626 William Fortune
1628 William Morgan
1629–1640 Dim Senedd
1640 Charles Jones[3]
1640 Gwag
1646 Thomas Pury
1653 Dim cynrychiolaeth
1659 Nathaniel Waterhouse
1660 Syr Trevor Williams
1661 Syr George Probert
1677 Charles Somerset Arglwydd Herbert
1679 Syr Trevor Williams
1679 Charles Somerset Arglwydd Herbert
1680 John Arnold
1685 Charles Somerset, Ardalydd Caerwrangon
1685 Syr James Herbert
1689 John Arnold
1689 Syr John Williams
1690 Syr Charles Kemeys
1695 John Arnold
1698 Henry Probert
1701 John Morgan
1705 Syr Thomas Powell
1708 Clayton Milborne
1715 William Bray
1720 Andrews Windsor
1722 Edward Kemeys
1734 Yr Arglwydd Charles Somerset
1745 Syr Charles Kemeys Tynte
1747 Fulke Greville
1754 Benjamin Bathurst
1767 (Syr) John Stepney
1788 Henry Somerset, Ardalydd Caerwrangon
1790 Charles Bragge
1796 Syr Charles Thompson
1799 Yr Arglwydd Robert Edward Henry Somerset
1802 Yr Arglwydd Charles Henry Somerset
1813 Henry Somerset Ardalydd Caerwangon
Mai 1831 Benjamin Hall
1831 Henry Somerset Ardalydd Caerwangon

1832-1918[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Aelod Plaid
1832 Benjamin Hall Rhyddfrydol
1837 Reginald James Blewitt Rhyddfrydol
1852 Crawshay Bailey Ceidwadol
1868 Syr John Ramsden Rhyddfrydol
1874 Thomas Cordes Ceidwadol
1880 Syr Edward Hamer Carbutt Rhyddfrydol
1886 Syr George Elliot Ceidwadol
1892 Albert Spicer Rhyddfrydol
1900 Dr Frederick Rutherfoord Harris Ceidwadol
1901 Joseph Lawrence Ceidwadol
1906 Lewis Haslam Rhyddfrydol
1918 diddymu'r etholaeth

Etholiadau[golygu | golygu cod]

Etholiadau yn y 1910au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1910: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint:12,934
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Lewis Haslam 6,154 54.9 -
Ceidwadwyr Gerald de La Pryme Hargreaves 5,056 45.1
Mwyafrif 1,098 9.8
Y nifer a bleidleisiodd 86.7
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1900au[golygu | golygu cod]

Lewis Haslam
Etholiad cyffredinol 1906: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 11,207
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Lewis Haslam 4,531 44.7 -
Ceidwadwyr E E Nicholls 3,939 38.8 -13.1
Llafur James Whinstone 1,678 16.5
Mwyafrif 592 5.9
Y nifer a bleidleisiodd 90.6
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1900 cafodd Dr Harris ei ddiarddel o'i sedd ar ôl i lys canfod ei fod wedi ei ennill ar sail gwneud datganiadau celwyddog am gymeriad ac ymddygiad ei wrthwynebydd. Cynhaliwyd isetholiad ar 7 Mai 1901:[4]

Dr Rutherfoord Harris
Isetholiad Bwrdeistrefi Sir Fynwy:
Etholfraint: 9,803[5]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Joseph Lawrence 4,604 51.9 -
Rhyddfrydol Albert Spicer 4,261 48.1 -
Mwyafrif 343
Y nifer a bleidleisiodd 90.4
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
  • Nodyn: Gan fod canlyniad yr etholiad blaenorol yn ddi-rym, bu i'r Ceidwadwyr ennill y sedd yn hytrach na'i gadw.
Etholiad cyffredinol 1900: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 9,335
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Dr Frederick Rutherfoord Harris 4,415 54.2 -
Rhyddfrydol Albert Spicer 3,727 45.8 -
Mwyafrif 688
Y nifer a bleidleisiodd 87.2
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Etholiadau yn y 1890au[golygu | golygu cod]

Albert Spicer
Etholiad cyffredinol 1895: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 8,391
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Albert Spicer 3,743 51.1 -
Ceidwadwyr E M Underdown 3,598 48.9 -
Mwyafrif 154
Y nifer a bleidleisiodd 87.4
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1892: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 7,697
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Albert Spicer 3,430 52.2 -
Ceidwadwyr Syr George Elliot, Barwnig 1af 3,137 47.8 -
Mwyafrif 293
Y nifer a bleidleisiodd 85.3
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau yn y 1880au[golygu | golygu cod]

Syr George Elliot yn Vanity Fair 1879
Etholiad cyffredinol 1886: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 6,485
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr George Elliot, Barwnig 1af 3,033 54.2 -
Rhyddfrydol Syr Edward Hamer Carbutt 2,568 45.8 -
Mwyafrif 465
Y nifer a bleidleisiodd 86.4
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Syr Edward Hamer Carbutt (1837-1905)
Etholiad cyffredinol 1885: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 6,485
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr Edward Hamer Carbutt 2,932 50.1 -
Ceidwadwyr Thomas Cordes 2,921 49.9 -
Mwyafrif 11
Y nifer a bleidleisiodd 90.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1880: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 5,090
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr Edward Hamer Carbutt 2,258 50.7 -
Ceidwadwyr Thomas Cordes 2,197 49.3 -
Mwyafrif 61
Y nifer a bleidleisiodd 87.5
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau yn y 1870au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1874: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 4,702
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Thomas Cordes 2,090 59.1 -
Rhyddfrydol H D Pochin 1,447 40.9 -
Mwyafrif 643
Y nifer a bleidleisiodd 75.2
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Etholiadau yn y 1860au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1868: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 3,771
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr John Ramsden 1,618 52.8 -
Ceidwadwyr S Homfray 1,449 47.2 -
Mwyafrif 169
Y nifer a bleidleisiodd 81.3
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Yn Etholiad Cyffredinol 1865 cafodd Crawshay Bailey ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad

Etholiadau yn y 1850au[golygu | golygu cod]

Ymddiswyddodd Blewitt o'r Senedd ym 1852 a bu isetholiad i ganfod olynydd iddo ar 3 Ebrill 1852

Crawshay Bailey
Is etholiad: Bwrdeistrefi Sir Fynwy 1852
Etholfraint: 1,676
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Crawshay Bailey 764 59 -
Rhyddfrydol W S Lindsey 529 41 -
Mwyafrif 235
Y nifer a bleidleisiodd 77.1
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Crawshay Bailey oedd yr Aelod Seneddol ar ran y Blaid Geidwadol am weddill y 1850au gan cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad ym 1852, 1857 a 1859

Etholiadau yn y 1840au[golygu | golygu cod]

Cafodd Reginald James Blewitt ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1847

Murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd cyn ei ddifrodi
Etholiad cyffredinol 1841: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 1,268
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Reginald James Blewitt 476 100 -
Mudiad y Siartwyr William Edwards[6] 0 0 -
Mwyafrif 476 100
Y nifer a bleidleisiodd 37.5
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1830au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1837: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 1,169
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Reginald James Blewit 440 53.3 -
Ceidwadwyr J Bailey 386 46.7 -
Mwyafrif 54
Y nifer a bleidleisiodd 88.2
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Syr Benjamin Hall
Etholiad cyffredinol 1835: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 1,088
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Benjamin Hall 428 50.2 -
Ceidwadwyr J Bailey 424 49.8 -
Mwyafrif 4
Y nifer a bleidleisiodd 78.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1832: Bwrdeistrefi Sir Fynwy
Etholfraint: 899
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Benjamin Hall 393 52.5 -
Ceidwadwyr Henry Somerset Ardalydd Caerwangon 355 47.5 -
Mwyafrif 38
Y nifer a bleidleisiodd 83.2
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "History of Parliament". History of Parliament Trust. Cyrchwyd 2013-06-02.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 "History of Parliament". History of Parliament Trust. Cyrchwyd 2011-10-16.
  3. Cafodd ei ethol ar gyfer Biwmares hefyd ond cafodd y senedd ei addoedi cyn iddo ddewis ei sedd
  4. Y Ddeiseb yn Erbyn Etholiad Dr Rutherford Harris yn Mynwy yn Gwalia 9 Ebrill 1901 [1] adalwyd 31 Ionawr 2015
  5. ETHOLIAD BWRDEISDREFI MYNWY Y Dydd 10 Mai 1901 [2] adalwyd 31 Ionawr 2015
  6. Gwent local history - 98 Spring 2005 After the rising : Chartism in Newport 1840-48 [3] adalwyd 1 Chwefror 2015