Bwrdeistref Southend-on-Sea

Oddi ar Wicipedia
Bwrdeistref Southend-on-Sea
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref, bwrdeistref sirol, ardal gyda statws dinas, Bwrdeistref Ddinesig Edit this on Wikidata
Poblogaeth180,915 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEssex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd41.7557 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.536667°N 0.714722°E Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000033 Edit this on Wikidata
GB-SOS Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Southend-on-Sea City Council Edit this on Wikidata
Map

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Essex, Dwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Southend-on-Sea (Saesneg: Borough of Southend-on-Sea).

Mae gan yr ardal arwynebedd o 41.8 km², gyda 183,125 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Castle Point i'r gorllewin, Ardal Rochford i'r gogledd, ac Aber Tafwys i'r de.

Bwrdeistref Southend-on-Sea yn Essex

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Essex, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1998.

Rhennir y fwrdeistref yn ddwy ran, sef ardal fawr di-blwyf sy'n cynnwys tref Southend-on-Sea ei hun, ac un plwyf sifil gweddol fach sy'n cynnwys tref Leigh-on-Sea. Mae'r ardal ddi-blwyf yn cynnwys yr anneddiadau Chalkwell, Eastwood, North Shoebury, Prittlewell, Shoeburyness, Southchurch, Thorpe Bay, a Westcliff-on-Sea.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 13 Gorffennaf 2020