Bwrdeistref Hyndburn
Gwedd
| Math | ardal an-fetropolitan, bwrdeisdref |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Gaerhirfryn |
| Prifddinas | Accrington |
| Poblogaeth | 80,815 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaerhirfryn (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 72.9974 km² |
| Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Cwm Ribble |
| Cyfesurynnau | 53.768°N 2.382°W |
| Cod SYG | E07000120 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Hyndburn Borough Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Hyndburn (Saesneg: Borough of Hyndburn).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 73 km², gyda 81,043 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar bedair ardal arall yn Swydd Gaerhirfryn, sef Bwrdeistref Cwm Ribble i'r gogledd, Bwrdeistref Burnley i'r dwyrain, Bwrdeistref Rossendale i'r de, a Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen i'r gorllewin.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Mae rhan fwyf y fwrdeistref yn ddi-blwyf, ond mae ganddi un plwyf sifil, sef Altham. Mae ei phencadlys yn nhref Accrington. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Clayton-le-Moors, Great Harwood, Oswaldtwistle a Rishton.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 10 Hydref 2020
