Caernarfon (etholaeth seneddol)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Bwrdeisdrefi Caernarfon)
Caernarfon
Etholaeth Bwrdeistref
Creu: 1542
Diddymwyd: 2010
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Roedd etholaeth Caernarfon yn ethol aelodau i senedd San Steffan yng ngogledd Cymru. Yn ddaearyddol, mae'r etholaeth yn rhan o Wynedd, gan gynnwys Llŷn i gyd. Rhwng 1832 a 1950, yr enw oedd Bwrdeistrefi Caernarfon.

Hanes[golygu | golygu cod]

O dan y Deddfau Uno roedd gan bob Sir yng Nghymru (ac eithrio Sir Feirionnydd) yr hawl i ddanfon dau Aelod Seneddol i San Steffan, un ar gyfer y Sir ac un ar gyfer y Bwrdeistrefi. Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon oedd trefi Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli ac o 1832 Bangor.

O 1536 i 1832 enw'r etholaeth oedd Caernarfon sef enw'r brif fwrdeistref, o 1832 hyd 1950 enw'r etholaeth oedd Bwrdeistrefi Caernarfon, cyn troi yn ôl i'r hen enw Caernarfon o 1950 hyd ei ddiddymu yn 2010.

Ym 1918 cafodd ffiniau'r etholaeth ei had-drefnu, fel ei fod yn cynnwys ardaloedd llywodraeth leol bwrdeistrefi trefol Bangor, Caernarfon, Conwy, a Phwllheli; rhanbarthau trefol Criccieth, Llandudno, Llanfairfechan, Penmaenmawr ac ardal wledig Llŷn.

Ym 1950 caed gwared â'r rhaniad Bwrdeistref a Sir a rhannwyd Sir Gaernarfon yn ddwy etholaeth sirol Caernarfon yng Ngorllewin y Sir a Chonwy yn y dwyrain, crëwyd y seddi newydd o adrannau a oedd yn arfer bod yn y ddwy hen sedd.

Bu man newidiai eraill i ffiniau'r etholaeth ym 1983.

Er gwaethaf yr holl newidiadau i'r ffiniau y mae'r rhan fwyaf o lyfrau ar hanes cynrychiolaeth seneddol yn ystyried bod olyniaeth barhaus yn bodoli o ethol John Pulston fel yr aelod cyntaf i gynrychioli Caernarfon i Senedd 1542 hyd ethol Hywel Williams ar gyfer Senedd 2005-2010.[1][2]

Diddymwyd yr etholaeth yn 2010 gyda rhannau ohoni yn cael ei gynnwys yn etholaeth newydd Dwyfor Meirionnydd ac eraill yn etholaeth Arfon.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

  • 1542 John Puleston
  • 1545 Robert Gruffydd
  • 1547 Robert Puleston
  • 1553 (Mawrth) Gruffydd Davies
  • 1553 (Hydref) Henry Robins
  • 1554 (Ebrill) Henry Robins
  • 1554 (Tachwed) Syr Rhys Gruffydd
  • 1555 ?
  • 1558 Robert Gruffydd
  • 1558 Maurice Davies
  • 1563 John Harington
  • 1571 John Griffith
  • 1584 Edward Griffith
  • 1586 William Griffith I
  • 1588 Robert Wynn
  • 1593 Robert Griffith
  • 1597 John Owen
  • 1601 Nicholas Griffith
  • 1604 John Griffith
  • 1605 Clement Edmondes
  • 1614 Nicholas Griffith
  • 1621 Nicholas Griffith
  • 1624 Peter Mutton
  • 1625 Edward Littleton
  • 1626 Robert Jones
  • 1628 Edward Littleton
  • 1640 (Ebrill)John Glynne
  • 1640 (Tachwedd) William Thomas
  • 1647 William Foxwist

Dim cynrychiolaeth ym 1653, 1654 na 1656

Etholiadau[golygu | golygu cod]

Etholiadau yn y 2000au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 2005: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Hywel Williams 12,747 45.5 +1.1
Llafur Martin R. Eaglestone 7,538 26.9 −5.4
Democratiaid Rhyddfrydol Mel Ab-Owain 3,508 12.5 +6.2
Ceidwadwyr Guy Opperman 3,483 12.4 −2.8
Plaid Annibyniaeth y DU Elwyn Williams 723 2.6 +0.7
Mwyafrif 5,209 18.6
Y nifer a bleidleisiodd 27,999 60.4 −1.6
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd +3.3
Etholiad cyffredinol2001: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Hywel Williams 12,894 44.4 −6.7
Llafur Martin R. Eaglestone 9,383 32.3 +2.8
Ceidwadwyr Mrs. Bronwen Naish 4,403 15.2 +2.9
Democratiaid Rhyddfrydol Mel Ab-Owain 1,823 6.3 +1.4
Plaid Annibyniaeth y DU Ifor D. Lloyd 550 1.9
Mwyafrif 3,511 12.1
Y nifer a bleidleisiodd 29,053 62.0 −11.7
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1990au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol1997: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Wigley 17,616 51.0 −8.0
Llafur Eifion W. Williams 10,167 29.5 +14.0
Ceidwadwyr Elwyn Williams 4,230 12.3 −6.9
Democratiaid Rhyddfrydol Mrs. Mary Macqueen 1,686 4.9 −0.9
Refferendwm Clive Collins 811 2.4
Mwyafrif 7,449 21.6
Y nifer a bleidleisiodd 34,510 73.7 −6.4
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd -11.0
Etholiad cyffredinol1992: Caernarfon[3]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Wigley 21,439 59.0 +1.9
Ceidwadwyr Peter E.H. Fowler 6,963 19.2 −2.0
Llafur Ms. Sharon Mainwaring 5,641 15.5 −0.3
Democratiaid Rhyddfrydol Robert Arwel W. Williams 2,101 5.8 −0.1
Deddf Naturiol Gwyndaf Evans 173 0.5 N/A
Mwyafrif 14,476 39.9 +3.9
Y nifer a bleidleisiodd 36,317 80.1 +2.1
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd +1.9

Etholiadau yn y 1980au[golygu | golygu cod]

Dafydd Wigley
Etholiad cyffredinol 1987: Etholaeth

Caernarfon

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Wigley 20,338 57.11
Ceidwadwyr Felix Aubel 7,536 21.16
Llafur Rhys Williams 5,632 15.82
Rhyddfrydol John Parsons 2,103 5.91
Mwyafrif 12,802 35.95
Y nifer a bleidleisiodd 77.99
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1983: Etholaeth

Caernarfon

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Wigley 18,308 52.7
Ceidwadwyr D.T. Jones 7,319 21.1
Llafur Betty Williams 6,736 19.4
Rhyddfrydol O Gwynn Griffiths 2,356 6.8
Mwyafrif 10,989 31.6
Y nifer a bleidleisiodd 78.6
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1970au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol1979: Etholaeth Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Wigley 17,420 49.6
Llafur T M Hughes 8,696 24.8
Ceidwadwyr J E T Paice 6,968 19.9
Rhyddfrydol J T Edwards 1,999 5.7
Mwyafrif 8,724
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol Hydref 1974: Etholaeth Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Wigley 14,624 42.6
Llafur E J Sherrington 11,730 35.6
Ceidwadwyr Robert Harvey 4,325 12.8
Rhyddfrydol D Williams 3,690 10.7
Mwyafrif 2,894
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol Chwefror 1974: Etholaeth Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Dafydd Wigley 14,103 40.8
Llafur Goronwy Roberts 12,375 35.6
Ceidwadwyr Tristan Garel Jones 5803 16.7
Rhyddfrydol G H David 2,506 7.2
Mwyafrif 1,728
Plaid Cymru yn disodli Llafur Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1970 Etholaeth Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Goronwy Roberts 13,627 40
Plaid Cymru Robyn Lewis 11,331 33.4
Ceidwadwyr Ms K J Smith 6,812 20.1
Rhyddfrydol J A Williams 2,195 6.5
Mwyafrif 2,296
Llafur yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1960au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1966: Etholaeth
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Goronwy Roberts 17,650 56.1
Ceidwadwyr G R Prys 6,972 22.2
Plaid Cymru H Roberts 6,837 21.7
Mwyafrif 10,678
Y nifer a bleidleisiodd 40,121 78.4
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1964: Etholaeth Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Goronwy Roberts 17,777 54.4
Ceidwadwyr Ms S M Roberts 7,195 24.2
Plaid Cymru R E Jones 6,998 21.4
Mwyafrif 9,862 54.4
Y nifer a bleidleisiodd 40,671 89.4
Llafur yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1950au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol1959

Maint yr Etholaeth 41,202

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Goronwy Roberts 17,506 51.0
Ceidwadwyr Tom Hooson 9,564 27.8
Plaid Cymru Dafydd Orwig Jones 7,293 21.2
Mwyafrif 7,942 23.1
Y nifer a bleidleisiodd 34,363 83.4
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol1955

Maint yr Etholaeth 42,753

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Goronwy Roberts 17,682 50.2
Ceidwadwyr O Meurig Roberts 8,461 24.0
Plaid Cymru Robert E Jones 5,815 16.5
Rhyddfrydol D Geraint Williams 3,277 9.3
Mwyafrif 9,221 26.3
Y nifer a bleidleisiodd 35,235 82.4
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1951: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Goronwy Roberts 22,375 62.4
Ceidwadwyr John E B Davies 13,479 37.6
Mwyafrif 8,896 24.8
Y nifer a bleidleisiodd 82.5
Llafur yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1950

Maint yr Etholaeth 43,453

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Goronwy Roberts 18,369 49.1
Rhyddfrydol E. R. Thomas 7,791 20.9
Ceidwadwyr G. W. Williams 6,315 16.9
Plaid Cymru John Edward Jones 4,882 13.1
Mwyafrif 10,578 28.2
Y nifer a bleidleisiodd 85.9
Llafur yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1940au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1945: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr David Price-White 11,432 32.9 -0.5
Rhyddfrydol Seaborne Davies 11,096 32.0 -34.6
Llafur William Elwyn Edwards Jones 10,625 30.6 N/A
Plaid Cymru John Edward Daniel 1,560 4.5 N/A
Mwyafrif 336 0.9
Y nifer a bleidleisiodd 34,713 73.8 +15.0
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
isetholiad 1945: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Seaborne Davies 20,754 75.2 +8.6
Plaid Cymru John Edward Daniel 6,844 24.8
Mwyafrif 13,910 50.4 +17.2
Y nifer a bleidleisiodd 27,598 58.8 -18.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1930au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1935: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 19,242 66.6 +7.3
Ceidwadwyr A R P Du Cros 9,633 33.4 -7.3
Mwyafrif 9,609 33.2 +14.6
Y nifer a bleidleisiodd 28,873 77.4 -2.9
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1931: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 17,101 59.3 +1.3
Ceidwadwyr F P Gourlay 11,714 40.7 +14.5
Mwyafrif 5,387 18.6 -13.2
Y nifer a bleidleisiodd 28,815 80.3 -1.5
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1920au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1929: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 16,647 58.0 -24.4
Ceidwadwyr John Bowen Davies 7,514 26.2
Llafur T ap Rhys 4,536 15.8 -1.7
Mwyafrif 9,133 31.8 -33.2
Y nifer a bleidleisiodd 28,697 81.8 +4.8
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1924: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 16,058 82.5 +19.4
Llafur Alfred Zimmern 3,401 17.5
Mwyafrif 12,657 65.0 +38.8
Y nifer a bleidleisiodd 19,459 77.0 -3.9
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1923: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 12,499 63.1
Ceidwadwyr Austin Ellis Lloyd Jones 7,323 36.9
Mwyafrif 5,176 26.2
Y nifer a bleidleisiodd 19,822 80.9
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Nodyn:Bocs dal etholiad
Etholiad cyffredinol 1922: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George diwrthwynebiad

Etholiadau yn y 1910au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1918: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 13,993 92.7 +30.7
Annibynnol A Harrison 1,095 7.3
Mwyafrif 12,898 85.4 +61.4
Y nifer a bleidleisiodd 15,088 63.4 -24.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol Rhagfyr 1910: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 3,112 62.0 +1.8
Ceidwadwyr A L Jones 1,904 38.0 -1.8
Mwyafrif 1,208 24.0 +3.6
Y nifer a bleidleisiodd 5,288 87.7 -4.8
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad Cyffredinol Ianawr 1910: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 3,183 60.2 -1.5
Ceidwadwyr H C Vincent 2,105 39.8 +1.5
Mwyafrif 1,078 20.4 -3.0
Y nifer a bleidleisiodd 5,288 92.5 +0.4
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1900au[golygu | golygu cod]

David Lloyd George 1908
Etholiad cyffredinol1906: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 3,221 61.7 +8.4
Ceidwadwyr R A Naylor 1,997 38.3 -8.4
Mwyafrif 1,224 23.4 +16.8
Y nifer a bleidleisiodd 5,218 92.1 +5.1
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol1900: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 2,412 53.3 +1.1
Ceidwadwyr H Platt 2,116 46.7 -1.1
Mwyafrif 296 6.6 +2.2
Y nifer a bleidleisiodd 4,528 87.0 -1.8
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1890au[golygu | golygu cod]

Poster etholiad Syr Hugh Ellis-Nanney 1895
Etholiad cyffredinol1895: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 2,265 52.2 -0.2
Ceidwadwyr Syr Hugh Ellis-Nanney 2,071 47.8 +0.2
Mwyafrif 194 4.4 -0.4
Y nifer a bleidleisiodd 4,336 88.8 +1.7
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol1892: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 2,154 52.4 +2.2
Ceidwadwyr J H Puleston 1,958 47.6 -2.2
Mwyafrif 196 4.8 +4.4
Y nifer a bleidleisiodd 4,112 87.1 -2.4
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Isetholiad 1890: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Lloyd George 1,963 50.2 +2.1
Ceidwadwyr Syr Hugh Ellis-Nanney 1,945 49.8 -2.1
Mwyafrif 18 0.4
Y nifer a bleidleisiodd 3,908 89.5 +11.2
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau yn y 1880au[golygu | golygu cod]

Love Jones-Parry
Etholiad cyffredinol1886: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Edmund Swetenham 1,820 51.9 +2.8
Rhyddfrydol Syr Love Jones-Parry 1,684 48.1 -2.8
Mwyafrif 136 3.8
Y nifer a bleidleisiodd 3,504 78.3 -6.2
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol1885: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Syr Love Jones-Parry 1,923 50.9
Ceidwadwyr Edmund Swetenham 1,858 49.1
Mwyafrif 65 1.8
Y nifer a bleidleisiodd 3,781 84.5
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1870au[golygu | golygu cod]

William Bulkeley Hughes

Yn Etholiad cyffredinol 1874 etholwyd William Bulkley Hughes yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol

Etholiadau yn y 1860au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1868: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Bulkeley Hughes 1,601 60.4
Ceidwadwyr T J Wynn 1,051 39.6
Mwyafrif 550
Y nifer a bleidleisiodd 78.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Yn Etholiad cyffredinol 1865 etholwyd William Bulkley Hughes yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol

Etholiadau yn y 1850au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1859: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Charles Griffith Wynne 380 53.7
Rhyddfrydol William Bulkeley Hughes 328 46.3
Mwyafrif 52
Y nifer a bleidleisiodd 76.2
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Yn Etholiad cyffredinol 1857 ail etholwyd William Bulkley Hughes yn ddiwrthwynebiad

Etholiad cyffredinol 1852: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr William Bulkeley Hughes 369 57.2
Rhyddfrydol Richard Davies 276 42.8
Mwyafrif 93
Y nifer a bleidleisiodd 74.9
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1840au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1841: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr William Bulkeley Hughes 416 51.8
Rhyddfrydol Yr Arglwydd George Paget 387 48.7
Mwyafrif 29
Y nifer a bleidleisiodd 78.6
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1830au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1837: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr William Bulkeley Hughes 405 51.3
Rhyddfrydol C H Paget 385 48.7
Mwyafrif 20
Y nifer a bleidleisiodd 71.9
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1835: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Love Parry Jones-Parry 378 51.9
Ceidwadwyr Owen Jones Ellis Nanney 350 48.1
Mwyafrif 28
Y nifer a bleidleisiodd 79.4
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Charles Paget
Etholiad cyffredinol 1832: Caernarfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Charles Paget 410 53
Ceidwadwyr Owen Jones Ellis Nanney 363 47
Mwyafrif 47 6
Y nifer a bleidleisiodd 855

Cyflwynwyd deiseb i herio'r canlyniad ym mis Mawrth 1833, disodlwyd Paget a gwnaed Nanney yn AS yn ei le ond ar apêl adferwyd y sedd i Paget ym mis Mai 1833.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The House of Commons 1509-1558, S.T. Bindoff (Secker & Warburg 1982)
  2. The House of Commons 1558-1603, P.W. Hasler (HMSO 1981)
  3. "Politics Resources". Election 1992. Politics Resources. 9 April 1992. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-15. Cyrchwyd 6 Dec 2010.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]