Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol
Enghraifft o'r canlynolsports organization Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1882 Edit this on Wikidata
PencadlysZürich Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.theifab.com, https://www.theifab.com/fr/, https://www.theifab.com/de/, https://www.theifab.com/es/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (Saesneg: International Football Association Board (IFAB)) ydi'r corff sydd yn gyfrifol am bennu a chadw rheolau pêl-droed[1]. Fe'i ffurfiwyd ym 1886 er mwyn cysoni'r rheolau ar gyfer cystadlaethau rhyngwladol. Ers ffurfio FIFA ym 1904 mae'r corff llywodraethol wedi cydnabod yr IFAB fel yr unig awdurdod ar reolau'r gamp[1].

Hanes[golygu | golygu cod]

Er bod y rhan helaeth o reolau pêl-droed wedi eu cysoni erbyn y 1870au, roedd gwahaniaethau bychain yn rheolau'r pedair cymdeithas Brydeinig. Roedd hyn yn peri problem ar gyfer gemau rhyngwladol gyda'r tîm cartref yn gosod y rheolau[2]. O dan arweiniad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA), daeth dau gynrychiolydd o'r pedair cymdeithas - Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon at eu gilydd ar 2 Mehefin, 1886 yn swyddfeydd yr FA yn Holborn Viaduct, Llundain er mwyn cysoni'r rheolau a ffurfio'r IFAB[3].

Ffurfiwyd Fédération Internationale de Football Association (FIFA) ym 1904 gyda'r corff llywodraethol yn cydnabod mai'r IFAB ydi'r unig awdurdod ar reolau'r gamp[1]. Yn dilyn poblogrwydd y gêm yn rhyngwladol, cafodd cynrychiolwyr FIFA eu derbyn yn aelodau o'r IFAB ym 1913. Yn wreiddiol roedd gan FIFA dwy bleidlais gyda'r pedair cymdeithas Brydeinig hefyd â dwy bleidlais yr un, ond ym 1958 gyda pwysigrwydd a phoblogrwydd pêl-droed rhyngwladol yn tyfu, daethpwyd i gonsensws y dylai FIFA cael mwy o ddylanwad ar reolau'r gêm. O'r herwydd newidiwyd y system fel bod gan y pedair gymdeithas Brydeinig un pleidlais yr un gyda FIFA yn cael pedair pleidlais. Roedd angen chwe pleidlais er mwyn sicrhau unrhyw newid[4]. Dyma'r system sydd yn bodoli hyd heddiw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Statutes of the International Football Association Board" (PDF) (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-01-05. Cyrchwyd 2015-01-07. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "The Laws: From 1863 to the Present Day". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-03. Cyrchwyd 2015-01-07. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "The IFAB, the eternal guardian of laws". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-08. Cyrchwyd 2015-01-07. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "IFAB: 125th Anniversary Brochure" (PDF) (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2015-01-07. Unknown parameter |published= ignored (help)