Bwffe

Oddi ar Wicipedia
Bwffe
Matheating party Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bwffe awyr agored yn Awstria.

Ffordd o weini bwyd sy'n galluogi'r ciniäwr i ddewis ei bryd a'i roi ar blât ei hun yw bwffe[1] (o'r Saesneg buffet, sy'n tarddu yn ei dro o'r gair Ffrangeg am "ystlysfwrdd"). Gosodir gwahanol fwydydd ar fwrdd neu gownter yn yr ardal fwyta neu'n agos iddi. Weithiau bydd cogydd neu weinydd yno i arlwyo bwydydd penodol, yn enwedig y rhai sydd angen eu cadw'n boeth.

Cynigir bwffes yn aml mewn gwestai, yn enwedig am frecwast, ac mewn bwytai bwffe sydd fel arfer yn cynnig faint a fynnid am bris gosod. Defnyddir hefyd i fwydo nifer fawr o bobl mewn cynadleddau, seremonïau ac ati. Mewn digwyddiadau cymdeithasol megis partïon mawr, cynigir yn aml bwffe "bys a bawd" er mwyn i bobl sefyll a siarad tra'n pigo tamaid, heb angen bwyta wrth ford gyda chyllell a fforc. Yn y fath bwffe, arlwyir byrbrydau a bwydydd cyfleus megis pitsa, crystiau a theisenni, a bwydydd ar ffyn coctel, ac weithiau ceir cytleri plastig a llestri papur.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]