Bwa (cerddoriaeth)
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Delwedd:Arc de violí.JPG, AGK bass bow grip.jpg | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | musical instrument part ![]() |
Yn cynnwys | frog, screw, pad, stick, hair ![]() |
![]() |

Bwa sielo
Mewn cerddoriaeth, ffon wedi'i thensiynu gyda gwallt ynghlwm iddi ac sy'n cael ei symud dros ran o offeryn cerdd er mwyn creu swn yw bwa. Mae'r mwyafrif o fwâu yn cael eu defnyddio gydag offerynau llinynol, fel y ffidil, er bod rhai bwâu yn cael eu defnyddio gyda llifiau cerddorol ac idioffonau eraill.
Mae bwa wedi'i wneud a brigyn siap arbennig a deunydd sy'n ffurfio rhuban sy'n cael ei ymestyn rhwng ei ddau ben, ac yn cael ei ddefnyddio i fwytho'r llinyn a chreu swn. Mae gwahanol ddiwylliannau wedi mabwysiadu amrywiol ddyluniadau ar gyfer y bwa. Er enghaifft, mewn rhai bwâu dim ond un cordyn sy'n cael ei ymestyn rhwng y ddau ben. Yn nhraddodiad y Gorllewin, blew ceffyl sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio.