Buster Keaton
Buster Keaton | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Frigo ![]() |
Ganwyd | Joseph Frank Keaton ![]() 4 Hydref 1895 ![]() Piqua ![]() |
Bu farw | 1 Chwefror 1966 ![]() Woodland Hills ![]() |
Man preswyl | Beverly Hills ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | digrifwr, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, golygydd ffilm, person milwrol, perfformiwr stỳnt, actor teledu, actor llwyfan, meimiwr, cyfarwyddwr ffilm, actor, cynhyrchydd, actor ffilm, swyddog milwrol, cyfarwyddwr, sgriptiwr ![]() |
Arddull | ffilm gomedi, ffilm fud, ffilm ddrama, ffilm annibynnol, ffilm antur, ffilm llawn cyffro, ffilm ramantus, historical drama film, ffilm hanesyddol ![]() |
Prif ddylanwad | Harold Lloyd, Roscoe Arbuckle ![]() |
Taldra | 165 centimetr ![]() |
Tad | Joe Keaton ![]() |
Mam | Myra Keaton ![]() |
Priod | Natalie Talmadge, Eleanor Keaton ![]() |
Plant | Joseph Talmadge Keaton, Robert Talmadge Keaton ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Gwefan | http://www.busterkeaton.com ![]() |
Actor, digrifwr a gwneuthurwr ffilmiau o'r Unol Daleithiau oedd Joseph Frank "Buster" Keaton (4 Hydref 1895 – 1 Chwefror 1966)[1]. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ffilmiau mud yn ystod y 1920au, lle perfformiodd gomedi gorfforol a styntiau dyfeisgar. Yn aml, byddai'n cynnal mynegiant wyneb stoicaidd heb wên a ddaeth yn nodwedd iddo.[2]

Yn blentyn, roedd Keaton yn perfformiwr yn act vaudeville teithiol ei deulu. Ei rôl ffilm gyntaf oedd yn The Butcher Boy (1917). Yn gynnar yn y 1920au, cyfarwyddodd a serennodd mewn cyfres o gomedïau ffilmiau byrion llwyddiannus, gan gynnwys One Week (1920), The Playhouse (1921), Cops (1922), a The Electric House (1922). Yna cyfarwyddodd a serennodd mewn nifer o ffilmiau hyd llawn; y mae nifer ohonynt, e.e. Sherlock Jr. (1924), The General (1926), Steamboat Bill Jr. (1928), a The Cameraman (1928), yn cael eu hystyried yn glasuron o'r oes fud.[3]
Dirywiodd ei yrfa ar ôl 1928, pan lofnododd gontract gyda Metro-Goldwyn-Mayer a cholli ei annibyniaeth artistig. Ysgarodd ei wraig gyntaf ef, ac ac aeth ef i afael alcoholiaeth. Daeth ei yrfa fel prif actor mewn ffilmiau nodwedd i ben ym 1933 pan gafodd ei ddiswyddo o MGM. Adfeddiannodd ei hunan yn y 1940au, a byddai’n gweithio fel perfformiwr comig hyd ddiwedd ei oes. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth ymddangosiadau cameo yn Sunset Boulevard (1950) gan Billy Wilder, Limelight (1952) gan Charlie Chaplin, a nifer o raglenni teledu.[4]
-
Gyda Virginia Fox yn The Electric House (1922)
-
Cops (1923)
-
The Navigator (1924)
-
The General (1926)
-
The Cameraman (1928)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Meade, Marion (1997). Buster Keaton: Cut to the Chase (yn Saesneg). Da Capo. t. 16. ISBN 0-306-80802-1.
- ↑ Barber, Nicholas (8 Ionawr 2014). "Deadpan but alive to the future: Buster Keaton the revolutionary". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Tachwedd 2015.
- ↑ Ebert, Roger (10 Tachwedd 2002). "The Films of Buster Keaton" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 28 Ionawr 2016.
- ↑ Fred Hift, Variety, 10 Rhagfyr, 1952, t. 24