Buddug Povey
| Buddug Povey | |
|---|---|
| Ganwyd | Buddug Povey 1969 Pwllheli, Gwynedd |
| Alma mater | Ysgol Eifionydd, Porthmadog, Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
| Galwedigaeth | actores |
| Cysylltir gyda | Jabas, Rownd a Rownd |
| Priod | Robin Eiddior |
| Perthnasau | Meic Povey brawd |
Actores sy'n enedigol o Garndoldenmaen, Eifionydd yw Buddug Povey (ganed 1969) sy'n chwaer i'r dramodydd Meic Povey. Bu'n actio o oed ifanc iawn gan ymddangos yn y gyfres Jabas yn portreadu'r cymeriad 'Pegi' a sawl ffilm a chyfres deledu i S4C wedi hynny. Mae hi'n fwyaf adnabyddus erbyn hyn am bortreadu'r cymeriad "Kay" yn y gyfres Rownd a Rownd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn ffermdy Tŷ Cerrig, Garndolbenmaen, Eifionydd, y magwyd Buddug yn un o 10 o blant i Gruffydd John Povey (1922-1998) a Margaret Emma Povey (Thomas gynt) (1923-2006).[1] Mynychodd yr Ysgol Gynradd lleol, ac yna Ysgol Eifionydd, Porthmadog.[2]
Mewn cyfweliad â Golwg yn 2022, eglurodd mai tra yn yr "ail flwyddyn y chweched dosbarth [1987] yn Ysgol Eifionydd" y cafodd gynnig rhan "Pegi" yn y gyfres Jabas.[3]
Astudiodd gwrs drama ym Mhrifysgol Aberystwyth.[3]
Mae'n briod â'r actor Robin Eiddior, ac yn 2018 roeddent yn byw yn Y Groeslon. Bu i'r ddau ddyweddio yn Albufeira, Portiwgal.[3]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]Ffilm, Teledu a Radio
[golygu | golygu cod]- Jabas (1988)
- Jabas Jones (ffilm) (1990)
- Dŵr a Thân (1992)
- I Dir Drygioni (1992)
- Lleifior (1993)
- Byd yn Grwn (1994)
- Brodyr a Chwiorydd (1994)
- Pengelli (1994-2000)
- Y Wisg Sidan (1995)
- Amdani! (1999-2005)
- Y Graith (1999)
- Rownd a Rownd (1999 - presennol)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan Ancestry".
- ↑ "Buddug Povey". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-10-17.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 ""Dw i'n aelod o'r cast rŵan ers 23 o flynyddoedd a wnes i 'rioed freuddwydio y byswn i yma gyhyd"". Golwg360. 2022-04-03. Cyrchwyd 2025-10-17.