Neidio i'r cynnwys

Buddug James Jones

Oddi ar Wicipedia
Buddug James Jones
GanwydBuddug James Edit this on Wikidata
18 Mawrth 1931 Edit this on Wikidata
Bow Street Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 2006 Edit this on Wikidata
Bow Street Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathro, dramodydd, cyfarwyddwr theatr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaBuddug James : brenhines y ddrama, Buddug James : brenhines y ddrama Edit this on Wikidata

Dramodydd ac athrawes ddrama dylanwadol o ardal Y Bala oedd Buddug James Jones neu Buddug James neu "B.J" (18 Mawrth 1931 – 4 Ionawr 2006) oedd yn cael ei chydnabod fel "brenhines y Ddrama."[1] Cyhoeddwyd cyfrol er cof amdani gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2009 gyda teyrngedau nodedig gan unigolion megis Yr Arglwydd Elystan Morgan a'r Prifardd Elwyn Edwards. Wrth dalu teyrnged iddi, nododd Lowri Rees "Rhoddodd ei bywyd i bobol ifanc ac i'r llwyfan yng Nghymru"[1] ac ychwanegodd Elystan Morgan, "Yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf gwreiddiol a mwyaf anghyffredin a welodd ein cymdeithas".[1]

Yn enedigol o Fryngwyn Canol, Dole, Bow Street, roedd yn ferch i John James o deulu Tŷ'n 'Reithin, Llanilar ac Elizabeth Ann o Aberffrwd.[1] Symudodd y teulu i Fryngwyn Canol ym 1928, lle ganwyd Buddug a'i brawd Hywel.[1]

Mynychodd Ysgol Rhydypennau, Ysgol Ardwyn [Penweddig] ac yna i Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg, ac y bu'n cyfarwyddo dramâu gyda'i chyd-fyfyrwyr.[1] Cafodd ei swydd cyntaf ym 1953 fel athrawes yn Ysgol Ramadeg y Merched yn Y Bala, "ac o'r cychwyn cymerodd yr ardal hi at ei chalon a daeth hithau yn un a gysylltid gan bawb â'r ardal".[1] Bu'n athrawes chwaraeon yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, a Drama wedi hynny hyd ei hymddeoliad yn 65 oed ym 1994.[1]

Tra yn yr ardal, bu'n cyfarwyddo sawl cwmni drama, lle bu'n ddylanwad mawr ar nifer o actorion a dramodwyr o Gymru fel Rhys Richards a Rhian Staples. Er ei bod wedi ymddeol, parhai i deithio i'r Bala, Machynlleth, Tywyn ac Aberystwyth i ddysgu drama i ddisgyblion lefel A a TGAU.[1]

Bu'n weithgar gyda'r cwmnïau drama Cwmni Drama Tegid a sefydlodd gwmni Licyris Olsorts gan "sicrhau rhediad anhygoel o fuddugoliaethau yng nghystadlaethau dramâu byrion yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1970au". Bu'n cyd-gynhyrchu pasiantau'r Nadolig a'r Pasg yng Nghapel Tegid Y Bala rhwng 1968 a 1982.[1]

Cafodd ei hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion ym 1997.[1]

Disgrifiodd y Parchedig R. W. Jones hi fel person "anghonfesiynol ei gwisg, a hefyd yn ei char - yn ei liw a'i gynnwys. Roedd yr anrhefn fwyaf yn y car. Byddai'n cwyno am golli sgriptiau, ond wedyn yn baglu ar draws bag du yn y tŷ yn Y Bala, a hwnnw'n llawn sgriptiau".[1]

Cafodd ei henwebu am Fedal Syr T. H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri 2005, er nas enillodd.[1]

Enillodd Wobr Diolch o Galon ar raglen o'r un enw ar S4C yn y 2000au a gynhyrchwyd gan Tonfedd Eryri.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd â John Griffith Jones yn y 1960au.[1]

Bu farw'n 74 oed ar y 4 Ionawr 2006 a chynhaliwyd ei hangladd yng Nghapel y Garn, Bow Street ar y 14 Ionawr 2006.

Gwaith ddethol

[golygu | golygu cod]

Teyrngedau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 Parry, Andrea (golygydd) (2009). Buddug James - Brenhines y Ddrama. Barddas. ISBN 9781906396183.