Caer Bentir Porth y Rhaw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Bryngaer Porth y Rhaw)
Caer Bentir Porth y Rhaw
Porth y Rhaw yn 2009
Enghraifft o'r canlynolcaer bentir, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthSir Benfro Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Caer bentir, sef math o fryngaer, a godwyd gan y Celtiaid o Oes yr Haearn yw Porth-y-Rhaw (cyfeirnod grid: SM7869024200), a erydwyd gryn dipyn gan y môr. Credir fod y gaer wedi'i chodi gan y llwyth Celtaidd lleol, sef y Demetae, ac fe'i defnyddiwyd hyd at y 4g OC, y cyfnod pan goresgynnwyd Cymru gan y Rhufeiniaid. Heddiw (2022) tua chwarter y fryngaer sydd heb ei erydu.[1] Ceir cyfanswm o bedwar clawdd a ffos ar derasau, gyda'r clawdd mewnol yn 4 metr o uchder. Mae dyddio radiocarbon wedi dangos bod pobl wedi dechrau byw yno yn yr Oes Haearn Cynnar i ganol yr Oes Haearn, ac mae crochenwaith yn dangos fod pobl wedi byw yno tan o leiaf y 4g OC.[2]

O edrych yn fanwl ar fap 1:2500 yr Ordnance Survey yn 1891 gwelir fod talp sylweddol o'r gaer hon wedi diflannu i'r môr cyn hynny.

Rhwng 1997-8 cynhaliodd Archaeoleg Cambria gloddfa ar y corn sy'n ymestyn i'r chwith o'r fryngaer a chanfyddwyd olion wyth tŷ crwn, gyda rhai ohonyn nhw wedi cael eu hail-adeiladu o leiaf 5 gwaith dros y canrifoedd. Roedd un o'r tai hyn o garreg, gyda'r gweddill yn bridd a charreg.

Ym Mehefin 2022 cynhaliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, gyda nawdd gan CADW a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gloddfa brys pellach, er mwyn archwilio'r fryngaer yn fwy trwyadl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. coflein.gov.uk; gwefan Coflein; adalwyd 24 Mehefin 2022.
  2. Crane, P and Murphy K 2010 `The excavation of a coastal promontory fort at Porth y Rhaw, Solva, Pembrokeshire? Archaeologia Cambrensis 159, 53-98 - gw. gwefan Coflein.