Bryngaer Caerfai

Oddi ar Wicipedia
Bryngaer Caerfai
Enghraifft o'r canlynolcaer bentir Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1000 CC Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthSir Benfro Edit this on Wikidata

Caer bentir yw Bryngaer Caerfai, sef math o fryngaer, a godwyd gan y Celtiaid yn Oes yr Haearn, ac a leolwyd ar bentir Bae Caerfai ger Tyddewi, Sir Benfro. Fe'i gelwir weithiau'n fryngaer Penpleidiau, ond yr enw ar ynys gyfagos yw Penpleidiau. Cofrestrwyd y fryngaer fel heneb gyda'r NPRN 305396.[1]

Credir fod y gaer wedi'i chodi gan y llwyth Celtaidd lleol, sef y Demetae. Mae'r gaer yn anghyffredin iawn gan fod iddi fur amddiffynnol o bedwar clawdd anferthol 100 metr o hyd, sy'n gorwedd yn gyfochrog; mae tair o'r ffosydd yn 3.5m o uchder. Saif y fynediad ar ochr ddwyreiniol y gaer.

Mae'r gaer mewnol oddeutu 100 metr wrth 120 metr, ac ers eo chodi ceir rhan sydd wedi ei bwyta gan y môr. Ceir gwaddodion cyfoethog yn y creigiau o dan y fryngaer, a chredir i breswylwyr y gaer durio i fewn i'r graig er mwyn cael y creigiau hyn, ond yr un pryd yn rhoi help llaw i'r erydu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. coflein.gov.uk; adalwyd 29 Mehefin 2022.