Bryn Newton-John

Oddi ar Wicipedia
Bryn Newton-John
Ganwyd5 Mawrth 1914 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw3 Gorffennaf 1992 Edit this on Wikidata
Manly, Sydney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Awstralia Awstralia
Alma mater
Galwedigaethieithydd, Almaenegwr Edit this on Wikidata
PlantOlivia Newton-John Edit this on Wikidata

Roedd Brinley (Bryn) Newton-John (5 Mawrth 19143 Gorffennaf 1992) yn weinyddwr prifysgol ac yn athro llenyddiaeth yr Almaen.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Newton-John yng Nghaerdydd yn blentyn i Oliver John, gweinyddwr ysgol a Daisy (née Newton) ei wraig.[2] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Treganna ac yng Ngholeg Gonville a Caius, Prifysgol Caergrawnt lle cafodd ddwbl gyntaf yn y tripos ieithoedd modern a chanoloesol.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cyn yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Ar ôl graddio, dechreuodd Newton-John ar yrfa fel athro. Cafodd ei benodi yn feistr cynorthwyol yn Ysgol Christs Hospital, ysgol breifat yn Horsham, Gorllewin Sussex, ym 1936. Ym 1938 symudodd i fod yn feistr yn Ysgol Stowe, ysgol bonedd yn Swydd Buckingham.[1]

Yn ystod y rhyfel[golygu | golygu cod]

Torrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws yrfa academaidd Newton-John. Ym 1940 cafodd ei gomisiynu i'r Awyrlu Brenhinol lle fu'n gweithio ym maes cudd-wybodaeth. Am ddwy flynedd gyntaf ei wasanaeth bu'n gyfrifol am holi peilotiaid o'r Almaen oedd wedi eu dal gan luoedd Prydain. Fel rhan o'r gwaith bu'n holi a gwirio llythyrau Rudolf Hess, dirprwy Adolf Hitler, a ffodd i'r Alban er mwyn ceisio cael cymod rhwng Prydain a'r Almaen.[3]

Ym 1942 aeth i weithio ar brosiect dirgel Ultra, prosiect rhyng-gipio'r signalau cyfathrebu'r gelyn a oedd wedi ei leoli ym Mharc Bletchley.[4] Ei waith oedd dehongli a dadansoddi'r wybodaeth a gafodd ei dadgodio gan y prosiect. Roedd yn rhan o'r tîm a oedd yn darparu gwybodaeth hanfodol am leoliad a chynlluniau'r Maeslywydd Erwin Rommel a fu o gymorth mawr i'r ardalydd Montgomery wrth iddo baratoi am frwydr El Alamein ym mis Hydref 1942.[1]

Ar ôl y rhyfel[golygu | golygu cod]

Ymadawodd Newton-John a'r lluoedd arfog ym mis Medi 1945 gan ail afael ar ei yrfa academaidd. Cafodd ei benodi yn brifathro Ysgol Uwchradd Bechgyn Swydd Gaergrawnt. Ym 1954 symudodd i Awstralia wedi ei benodi yn Feistr Coleg Ormond, Prifysgol Melbourn.[5] Ym 1958 cafodd ei benodi yn athro Almaeneg a phennaeth adran y celfyddydau yng Ngholeg Prifysgol Newcastle, a oedd ar y pryd yn rhan o Brifysgol De Cymru Newydd. Arhosodd yn y coleg hyd ei ymddeoliad gan ei gynorthwyo i ddod yn brifysgol annibynnol, Prifysgol Newcastle, ym 1965. Gwasanaethodd fel dirprwy warden y coleg o 1963, is-bennaeth y brifysgol newydd o 1965, a'i dirprwy is-ganghellor o 1968 hyd ei ymddeoliad ym 1974.

Yn 1972 fe'i hetholwyd yn gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Ar ei ymddeoliad, rhoddodd y brifysgol iddo gadair athro emeritws ac a enwyd gwobr am greadigrwydd ac arloesiad er anrhydedd iddo.[1]

Darlledu[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Ormond bu Newton John hefyd yn cyfrannu i'r cwmni teledu lleol ym Melbourn fel actor, canwr a chyflwynydd rhaglenni. O 1981 bu'n cyflwyno rhaglen cerddoriaeth glasurol ar sianel radio 2 MBS-FM bu hefyd yn aelod o fwrdd reoli'r orsaf. Ym 1958 Newton John oedd cadeirydd cyntaf y rhaglen Any Questions (rhaglen debyg i Pawb a'i Farn) ar sianel deledu ABC a Forum rhaglen debyg a darlledwyd ar orsaf NBN 3 ym 1962.

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu Newton-John yn briod dair gwaith. Ym 1937 priododd Irene Helene Käthe Hedwig Born, merch y ffisegwr Max Born. Bu iddynt fab a dwy ferch. Eu merch ieuangaf yw'r actor Olivia Newton-John. Cawsant ysgariad ym 1958. Ym 1963 priododd Ter Wee (née Cuningham) cawsant fab a merch cyn ysgaru ym 1983. Ym 1992 priododd y newyddiadurwr Gay Mary Jean Holly.[1]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Manly, De Cymru Newydd o ganser yr afu yn 78 mlwydd oed.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]