Bryn Mawr, Dolgellau
Math |
ffermdy ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Dolgellau ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.730724°N 3.88439°W ![]() |
Manylion | |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd II ![]() |
Ffermdy enwog tua milltir a hanner i'r de o Ddolgellau, Gwynedd yw Bryn Mawr, a roddodd ei enw i Goleg Bryn Mawr a nifer o adeialadau a llefydd eraill yn Unol Daleithiau America. Yma y ganed y crynwr blaenllaw Rowland Ellis (1650 - Medi 1731) a ymunodd â'r Crynwyr tua 1672, ac a gafodd ei garcharu nifer o weithiau.[1]
Cofrestrwyd y ffermdy gan Cadw gyda'r chif 5137 ar 19 Mehefin 1990.[2]
Lleolwyd y nofell Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames yma ym Mryn Mawr.
Hanes yr adeilad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir dist derw gyda'r arysgrif canlynol, sy'n rhoi dyddiad codi'r tŷ:
- "Y TU HWN YN Y FLWYT 1617 REES LEWIS AI GWNAETH"
Ceir hefyd tŷ bychan gerllaw, a ddefnyddiwyd, efallai, ar gyfer y gweision a'r morynion, sef Tyddyn-y-Traian. Codwyd estyniad tua 1750 yng nghefn y tŷ ac un arall yn y ffrynt a'r gogledd tua 1800. Ŵyr Rhys (nu 'Rees' yn ysgrifenedig) oedd Rowland Ellis a aned yma. Daeth yn un o arweinwyr y Crynwyr, gan ymfudo i Bennsylvania yn l686. Yno hefyd y bu farw yn 1731, gan adael gwaddol enfawr i godi ysgol, sydd erbyn heddiw yn un o brif golegau UDA.
Llefydd a enwyd ar ôl Bryn Mawr[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhestr Wicidata:
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ archives.library.wales; archifau Crynwyr Sir Feirionnydd yn y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 18 Mehefin 2019.
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 18 Mehefin 2019.