Bryn Breiddin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coed ar lethr Bryn Breiddin
Pilar Rodney

Mae Bryn Breiddin yn fryn uwchben Afon Hafren i'r gogledd o'r Trallwng, un o bump yn agos at eu gilydd. Roedd bryngaer Breiddin ar y copa, ond difethwyd y mwyafrif gan chwarel ar ochr orllewinol y bryn. Defnyddir cynnyrch y chwarel i adeiladu ffyrdd. Gwnaethpwyd y bryn o ddolerit, ac oedd o'n llosgfynydd.[1] Mae'r bryn yn 1203 troedfedd o uchder.[2]

Ceir bryngaer enfawr o 28 ha[3] ar Fryn Breiddin a elwir yn 'Breiddin' (neu 'Gaer Breiddin') (Cyfeirnod OS: SJ29401432) a sefydlwyd yn Oes yr Efydd ac a ddatblygwyd ymhellach dros gyfnod Oes yr Haearn.[4]

Mae Pilar Rodney'n sefyll ar gopa'r bryn. Adeiladwyd y pilar gan bobl lleol i gofnodi bod coed derw wedi mynd o'r ardal, i lawr Afon Hafren i Fryste, lee adeiladwyd fflyd Llyngesydd Rodney.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]