Neidio i'r cynnwys

Brycheiniog Tawe Nedd (etholaeth Senedd)

Oddi ar Wicipedia
Brycheiniog Tawe Nedd
Enghraifft o:etholaeth Senedd Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Un o etholaethau'r Senedd yw Brycheiniog Tawe Nedd, a ffurfiwyd ar gyfer etholiad 2026. Yr enw Cymraeg a ddefnyddir hefyd yn Saesneg.

Bydd yr etholaeth hon yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS).

Fe'i cynigiwyd yn dilyn adolygiad 2024 o etholaethau'r Senedd, ac fe'i ffurfiwyd drwy uno dwy o etholaethau Senedd y Deyrnas Unedig, sef Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe ar y naill law a Chastell Nedd a Dwyrain Abertawe ar y llall. Bydd y ffiniau'n cael eu hadolygu eto cyn etholiad 2030.

Ffiniau

[golygu | golygu cod]

Cadarnhawyd yr enw a'r ffiniau Cymraeg yn unig yn argymhellion terfynol y comisiwn ym mis Mawrth 2025. [1]

Mae'n cynnwys rhannau o siroedd Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae'r etholaeth i'w sefydlu erbyn 2026, yn dilyn pasio Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Y ddeddf hon sy'n dod â'r newidiadau i rym, fel ag i greu 16 "uwch-etholaeth" mwy, gan uno 32 etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig yng Nghymru, a defnyddio system bleidleisio newydd sy'n gwbl gyfrannol, gyda phob etholaeth yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS) yn hytrach nag un fel a wnaed yn y gorffennol.[2]

Etholiadau

[golygu | golygu cod]

Etholiad 2026

[golygu | golygu cod]
Etholiad 2026 y Senedd: Brycheiniog Tawe Nedd
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr
  1. Tyler Chambers
  2. Elizabeth Hill-O'Shea
  3. Jane Lyons
  4. Matthew Gilbert
  5. Hannah Jarvis
  6. Amanda Davies
Plaid Cymru
  1. Sioned Williams
  2. Rebeca Phillips
  3. Andrew Jenkins
  4. Justin Horrell[3]
  5. Kate Heneghan
Democratiaid Rhyddfrydol
  1. Jane Dodds
  2. William Powell
  3. Jackie Charlton
  4. Phoebe Jenkins
  5. Susan Grounds
  6. William Lloyd
  7. Peter Chapman[4]
Heritage Jennifer Roberts
Llafur
  1. Mahaboob Basha[5]
  2. Alex Sims
  3. Sarah Thomas
  4. Elliot Wigfall
  5. Cyriac George
  6. Chelsea Edwards
  7. Morgan Pritchard
Reform UK
  1. James Evans
  2. Iain McIntosh
  3. David Mills
  4. Stephanie Moira Charles
  5. Dewi Thomas
  6. Celfyn Furlong [6]

Roedd James Evans ar frig rhestr y Blaid Geidwadol ar gyfer yr etholaeth hyd fis Ionawr 2026, pan gafodd ei ddiarddel gan y blaid honno oherwydd ei gynlluniau i ymuno â Reform UK.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Price, Emily (2025-03-11). "New Senedd 'super constituencies' confirmed". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-11.
  2. Hayward, Will (2024-09-02). "The full details of Wales' 16 new constituencies for Senedd elections". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-02-28.
  3. "Cyhoeddi ymgeiswyr Plaid Cymru yn etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd". Golwg360. 2025-06-10. Cyrchwyd 2026-01-10.
  4. "Brycheiniog Tawe Nedd". Welsh Liberal Democrats. Cyrchwyd 2026-01-08.
  5. Green, Daniel (2025-12-02). "Senedd elections 2026: Who are Welsh Labour's candidates?". LabourList. Cyrchwyd 2026-01-06.
  6. Owen, Rhys (2026-03-26). "Pwy ydi Reformwyr Cymru?". Golwg. Cyrchwyd 2026-03-26.
  7. "Gair y Gohebwyr: Dan Thomas yn arwain Reform, rhaniadau Llafur, a dyfodol Keir Starmer". Y Pod. 6 Chwefror 2026. Cyrchwyd 2026-02-07.