Brwydr yr Haleliwia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Safle traddodiadol Brwydr yr Haleliwia ar dir fferm yr Rhual ger yr Wyddgrug. Codwyd colofn neu obelisg yno yn ddiweddarach.

Brwydr yn 430 OC oedd Brwydr yr Haleliwia (neu Frwydr Maes Garmon), a ymladdwyd rhwng y Brythoniaid dan arweiniaeth Sant Garmon a'r Pelagiaid - a oedd yn ennill tir yn ynys Prydain oherwydd dylanwad Agricola - a byddin o Eingl-Sacsoniaid.

Tra'r oedd ym Mhrydain, arweiniodd Garmon y Brythoniaid i fuddugoliaeth yn erbyn byddin o Bictiaid a Sacsoniaid. Wedi bedyddio ei fyddin, gorchmynodd Garmon iddynt weiddi "Haleliwia", gan godi arswyd ar y gelyn nes iddynt ffoi. Yn ôl traddodiad, ymladdwyd y frwydr ar safle ger Yr Wyddgrug.

Roedd "Brwydr yr Haleliwia" yn destun poblogaidd gan feirdd ac eisteddfodau'r 19eg ganrif.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.