Neidio i'r cynnwys

Brwydr Stamford Bridge

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Stamford Bridge
Enghraifft o:brwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad25 Medi 1066 Edit this on Wikidata
Rhan oGweithgaredd Llychlynaidd ar Ynys Prydain Edit this on Wikidata
LleoliadStamford Bridge, Dwyrain Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0hlm5 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Brwydr a ymladdwyd ar 25 Medi 1066 ger pentref Stamford Bridge, Dwyrain Swydd Efrog[1], gogledd-ddwyrain Lloegr, oedd Brwydr Stamford Bridge. Ymladdodd byddin Seisnig o dan y Brenin Harold Godwinson yn erbyn llu goresgynnol o Norwy dan arweiniad y Brenin Harald Hardrada a brawd brenin Lloegr, Tostig Godwinson. Ar ôl brwydr waedlyd, lladdwyd Hardrada a Tostig ynghyd â'r rhan fwyaf o'r Norwyaid.

Er i Harold Godwinson wrthyrru goresgynwyr Norwy, trechwyd ei fyddin gan y Normaniaid yn Hastings lai na thair wythnos yn ddiweddarach. Yn draddodiadol, cyflwynwyd y frwydr fel symbol o ddiwedd Oes y Llychlynwyr, er bod ymgyrchoedd Sgandinafaidd mawr wedi digwydd ym Mhrydain ac Iwerddon yn ystod y degawdau canlynol, fel ymgyrchoedd y Brenin Sweyn Estrithson o Ddenmarc yn 1069–1070 a'r Brenin Magnus Barefoot o Norwy yn 1098 a 1102–1103.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Michael Swanton, gol. (1998). The Anglo-Saxon Chronicle (yn enpage=198). Efrog Newydd: Routledge.CS1 maint: unrecognized language (link)