Brwydr Prydain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Spitfire and He 111 during Battle of Britain 1940.jpg
Awyren ymladd Spitfire o'r Awyrlu Brenhinol (isod) yn ymosod ar awyren fomio He 111 o'r Luftwaffe yn ystod Brwydr Prydain.
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolair battle, gweithrediad milwrol Edit this on Wikidata
Dyddiad1940 Edit this on Wikidata
Rhan oyr Ail Ryfel Byd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd10 Gorffennaf 1940 Edit this on Wikidata
Daeth i ben31 Hydref 1940 Edit this on Wikidata
Lleoliady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAdlertag Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymgyrch filwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Brwydr Prydain a ymladdwyd yn haf 1940 rhwng y Deyrnas Unedig a'r Almaen Natsïaidd dros reolaeth awyrennol ynys Prydain Fawr. Hon yw'r ymgyrch fawr gyntaf erioed i'w hymladd yn gyfan gwbl gan luoedd yn yr awyr. O Fehefin i Fedi 1940, lansiwyd cyrchoedd awyr gan y Luftwaffe—awyrlu'r Almaen—ar safleoedd milwrol yn ne-ddwyrain Lloegr, a llwyddodd yr Awyrlu Brenhinol (RAF) ac Adran Awyr y Llynges Frenhinol i wrthsefyll yr ymosodiadau hynny. Wedi buddugoliaeth Prydain, cychwynnodd y Luftwaffe ymgyrch fomio strategol—a elwir y Blitz—ar ddinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig, yn enwedig Llundain, a barodd hyd at Ebrill 1941.

Wedi cwymp Ffrainc i'r Almaen a gwacâd Dunkerque ym Mai–Mehefin 1940, meddai Winston Churchill, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig mewn araith i Dŷ'r Cyffredin: "Mae'r hyn a alwodd y Cadfridog Weygand yn Frwydr Ffrainc drosodd. Rwy'n disgwyl bod Brwydr Prydain ar fin dechrau." Nod yr Almaenwyr oedd i orfodi'r Prydeinwyr i ymbil am heddwch, ac at y diben hwnnw ceisiodd y Kriegsmarine—llynges yr Almaen—a'r Luftwaffe warchae o'r môr a'r awyr ar luoedd y Deyrnas Unedig ym Môr Udd yng Ngorffennaf 1940. Canolbwyntiodd y Luftwaffe i ddechrau ar longau'r Llyngres Frenhinol yn hebrwng llongau nwyddau ar hyd arfordir deheuol Lloegr, yn ogystal â phorthladdoedd megis Portsmouth.

Ar 1 Awst, gorchmynnwyd i'r Luftwaffe ennill uchafiaeth awyrennol ar yr Awyrlu Brenhinol, gyda'r nod o analluogi Rheolaeth Awyrennau Ymladd yr RAF. Deuddeng niwrnod yn ddiweddarach, dechreuodd y Luftwaffe fomio meysydd awyr ac adeiladau'r RAF, ac wrth i'r frwydr barhau daeth i gynnwys ffatrïoedd awyrennau ac isadeiledd strategol yn ei targedau. Ym Medi 1940, cychwynnodd y Luftwaffe ar ymgyrch hir o fomio ardaloedd trefol, gan gynnwys Llundain, Lerpwl, Kingston upon Hull, Bryste, Caerdydd, Portsmouth, Plymouth, Southampton, Abertawe, Belffast, Glasgow, Birmingham, Coventry, Manceinion, a Sheffield. Yn y cyfnod o 7 Medi 1940 i 11 Mai 1941, bu farw rhyw 40,000 o ddinasyddion y Deyrnas Unedig o ganlyniad i'r Blitz, a dinistrwyd dwy filiwn o dai. Er yr oedd yno fwy o awyrennau'r RAF nag o'r Luftwaffe, byddai'r Prydeinwyr yn drech na'r Almaenwyr o ganlyniad i'w tactegau a thechnoleg amddiffyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Battle of Britain. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2022.