Brwydr Mortimer's Cross

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ymladdwyd Brwydr Mortimer's Cross ar 2 Chwefror, 1461 yn Wigmore ger Llanllieni, Swydd Henffordd (rhwng Henffordd a Llanllieni, yn ymyl Afon Lugg). Roedd yn un o gyfres o frwydrau rhwng pleidiau'r Lancastriaid a'r Iorciaid a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Ar ôl marwolaeth Dug Efrog ym Mrwydr Wakefield ddau fis ynghynt, arweinwyd yr Iorciaid gan ei fab deunaw mlwydd oed Edward, Iarll y Mers (Edward IV o Loegr yn ddiweddarach). Roedd yn ceisio rhwystro'r lluoedd Lancastraidd a godwyd yng Nghymru gan Owain Tudur a'i fab Siasbar rhag ymuno â'r brif fyddin Lancastraidd. Roedd Edward wedi codi milwyr ar hyd y Mers ac roedd yn ogystal nifer o filwyr Cymreig o dde-ddwyrain Cymru ganddo, dan Syr Wiliam Herbert a'i gefnogwyr. Brwydr rhwng Cymry oedd hon i bob pwrpas, a hynny am feddiant coron Lloegr.

Roedd Siasbar wedi treulio misoedd lawer yn codi ei fyddin o Gymry, Gwyddelod a Llydawyr. Yn nechrau Ionawr arweiniodd y fyddin o Benfro tua'r gogledd-ddwyrain. Ymunodd byddin ei dad, Owain, ar y ffordd wrth iddynt deithio trwy ganolbarth Cymru. Ond heb lwyddo i gyfarfod â'r brif fyddin Lancastraidd yr oedd byddin Siasbar ac Owain yn sylweddol lai na byddin Edward.

Enillodd yr Iorciaid y dydd yn rhwydd, a ffoes Siasbar Tudur yn ôl i Benfro. Roedd Owain Tudur yn llai ffodus; cafodd ei ddal a'i ddienyddio yn Henffordd ar orchymyn Edward. Tybir fod cymaint â 4000 wedi'u lladd yn y frwydr, a'r rhan fwyaf ohonynt yn Gymry. Agorodd y frwydr y ffordd i goroni Edward yn frenin Lloegr yn nes ymlaen yn y flwyddyn a dechrau cyfnod o erledigaeth ar y Lancastriaid a'u cefnogwyr.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)
  • David Rees, The Son of Prophecy (argraffiad newydd, Rhuthun, 1997)